Ystyriol o Anifeiliaid – The Vegan Coffi House, Aberdâr

Agorodd y Vegan Coffi House ar 18 Ebrill 2023, yn 1A Stryd Weatheral, Aberdâr. Mae’r caffi sy’n seiliedig ar blanhigion ac yn ystyriol o anifeiliaid yn darparu detholiad o gacennau bach, pasteiod a danteithion ynghyd ag opsiynau di-glwten ac amrywiaeth o laeth sy’n seiliedig ar blanhigion.

Meirion Withey a Jeraldine Waddingham yw perchnogion The Vegan Coffi House, “i ddod â rhywbeth gwahanol” i ganol y dref. Mae Meirion hefyd yn rhedeg busnes trin cŵn yn Aberdâr.
Dyfarnodd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd CIC (PyC) £2,737 i The Vegan Coffi House o dan Rownd 12 o’r Gronfa Micro tuag at gostau cychwyn y busnes.

“Mae gennym ni bobl newydd yn ymweld â ni bob wythnos o hyd, gan ein helpu ni i dyfu’n fwyfwy poblogaidd yn y gymuned ac o’r tu allan i Aberdâr. Mae’r cyfraniad a wnaed gan PyC i’n busnes drwy ariannu’r prosiect wedi ein helpu i gyflawni llawer o’n nodau.”
Meirion Withey, Perchennog

Mae’r Vegan Coffi House ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm, ac o 9am i 4pm ar ddydd Sadwrn ac ar gau ar ddydd Sul.

Facebook
https://www.facebook.com/profile.php/?id=100089379905711

Instagram
https://www.instagram.com/vegancoffihouse/

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.