Ysgol Goedwig Caru’r Coed: Natur, Llesiant a Dysgu drwy’r Gymraeg
Mai 27, 2026
Gyda chefnogaeth grant o £6,300 gan Gronfa Ficro Pen y Cymoedd, mae Ysgol Goedwig Caru’r Coed wedi darparu sesiynau Ysgol Goedwig dwyieithog i blant ledled y Rhondda, gan helpu pobl ifanc i feithrin hyder, creadigrwydd a chysylltiad â natur.
Defnyddiwyd y cyllid i ddarparu sesiynau dysgu awyr agored hygyrch i ysgolion, meithrinfeydd a grwpiau cymunedol, gyda gweithgareddau yn cynnwys coginio ar dân gwersyll, crefftau natur, defnyddio offer a chwarae dan arweiniad y plant.
Hyd yn hyn, mae mwy na 120 o blant a phobl ifanc wedi cymryd rhan. Mae’r adborth gan ysgolion a meithrinfeydd wedi bod yn hynod gadarnhaol, gydag un ysgol yn disgrifio’r sesiynau fel “profiad gwych” i’r plant a’r staff fel ei gilydd.
Mae’r prosiect hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar dwf Caru’r Coed fel busnes newydd. Mae argymhellion cryf ar lafar wedi arwain at gyfleoedd newydd ledled yr ardal fuddiant a thu hwnt, gan helpu i adeiladu sylfaen cleientiaid fwy cynaliadwy ac amrywiol ar gyfer y dyfodol.
Mae’r prosiect hefyd wedi annog ysgolion i fuddsoddi ymhellach mewn dysgu awyr agored, gan greu cyfleoedd parhaol i blant fwynhau a gofalu am y byd naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg.