VALLEYS KIDS PENYRGHENGLYN PROSIEC
VALLEYS KIDS
PENYRGHENGLYN
PROSIECT
£3,300 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017
Roedd hwn yn gais a gyflwynwyd ac a ddyfeisiwyd yn dda ar gyfer swm cymharol fach. Rhyngddynt, cyrhaeddodd y tair rhaglen bobl o bob oedran ac roedd ganddynt y potensial i wneud gwir wahaniaeth i’r rhai sy’n cymryd rhan. Mae hyn yn gweddu i gred graidd Valleys Kids sef ‘o gael y cyfleoedd, cefnogaeth ac anogaeth iawn ar yr amser iawn, gall unrhyw un newid eu bywydau er gwell.’ Roedd y buddiolwyr a’r canlyniadau’n glir ac mae gan y mudiad hanes cadarn o gyflwyno.
“Gyda’r grant cyflenwyd darpariaeth cyn-ysol, prynwyd therapydd i mewn i helpu cefnogi ein grŵp menywod a gwellwyd y gwasanaeth ar gyfer ein darpariaeth ieuenctid. Mae’r cyn-ysgol bellach yn ddarpariaeth llawer gwell, gyda chyfarpar gwych diolch i’r cyllid ac mae ein niferoedd wedi cynyddu. Rydym yn mynd â’r plant allan yn amlach oherwydd ein dillad pob tywydd newydd, mae’r plant yn awyddus iawn i fynd allan a mynd ati i fforio.
Mae grŵp hunan-gefnogaeth y menywod yn mwynhau’r sesiynau gyda’n therapydd newydd yn fawr. Maent yn siarad am gyfrannu eu harian eu hunain er mwyn i’r therapydd barhau i ddod, roedd un fenyw a oedd yn dawel iawn ond ers y sesiynau therapi mae hi wedi tyfu’n wirioneddol gyda’r grŵp a datblygu ei hyder ei hun. Mae’r cyfarpar newydd ar gyfer y grŵp ieuenctid wedi annog nhw o ddifri i ryngweithio â’i gilydd, mae’r cyfarpar sy’n briodol i oedran yn helpu nhw i fod yn dawelach ac yn haws mynd atynt, mae’n haws ymwneud â’r plant pan fyddant yn cael hwyl.
Rydym wedi darparu cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer rhai o’r bobl ifainc yn ein clwb ar ôl ysgol hefyd. Gallwn ddweud mewn gwirionedd ein bod yn cyflawni yn ogystal â darparu gwasanaeth o safon. Roedd pob grŵp yn ymwybodol o’n cais ac yn ymwneud â’r broses o benderfynu ar beth roeddent ei angen ar gyfer y grŵp.” – Caroline Jones Valleys Kids
LLEOLIAD Y GWEITHGAREDD:
TREHERBERT CWM: RHONDDA
Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.