Trawsnewid Clwb Bechgyn a Merched Treorci: £25,700 wedi’i ddyfarnu i Volunteer It Yourself

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch iawn o ddyfarnu £25,700 i Volunteer It Yourself (VIY) i gefnogi prosiect adnewyddu a thrawsnewid hanfodol yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treorci. Bydd y cyllid hwn yn helpu i wella’r cyfleusterau ac yn darparu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl ifanc leol.
 
Mae Clwb Bechgyn a Merched Treorci yn ganolfan boblogaidd a phwysig i’r gymuned, gyda thua 400 o ddefnyddwyr rheolaidd yn cymryd rhan mewn chwaraeon, y celfyddydau, gemau a gweithgareddau cymdeithasol. Bydd y prosiect yn uwchraddio mannau hanfodol, gan gynnwys toiledau dynion, menywod ac anabl, yn ogystal ag ailaddurno ardaloedd allweddol i wneud y clwb yn fwy croesawgar, cynhwysol a chynaliadwy. Bydd y gwelliannau hyn yn galluogi’r clwb i gynnal mwy o weithgareddau, denu aelodau newydd, a chynhyrchu incwm ychwanegol i sicrhau ei ddyfodol hirdymor.
 
Wrth wraidd y prosiect mae’r cyfle i o leiaf 20 o bobl ifanc leol, 14 oed a throsodd, sydd ar hyn o bryd yn ddi-waith neu heb ymgysylltu ag addysg, gael profiad galwedigaethol ymarferol ym maes adeiladu, gan gynnwys cymwysterau City & Guilds. Dan fentora crefftwyr proffesiynol, bydd y gwirfoddolwyr ifanc hyn yn datblygu sgiliau ymarferol, cyflogadwyedd a hyder, tra’n cyfrannu at brosiect sy’n fuddiol i’r gymuned gyfan. Disgwylir i o leiaf 20% o’r cyfranogwyr symud ymlaen i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn dilyn y prosiect.
 
Mae’r fenter hon hefyd yn cryfhau cydlyniant cymunedol, gan annog cydweithio rhwng cenedlaethau a meithrin balchder a pherchnogaeth o fannau lleol. Drwy gyfuno gwelliannau i gyfleusterau â hyfforddiant sgiliau achrededig, mae VIY yn sicrhau bod buddion parhaol i’r bobl ifanc a’r gymuned ehangach fel ei gilydd.
 
“Yn VIY rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd i adnewyddu Clwb Bechgyn a Merched Treorci, tra’n rhoi cyfle i bobl ifanc leol ddysgu sgiliau adeiladu. Rydym wedi gweithio gyda nifer o Glybiau Bechgyn a Merched yn Ne Cymru dros y blynyddoedd ac yn gwybod y rôl wych y maent yn ei chwarae yn eu cymunedau. Gwyddom y bydd cefnogi’r Clwb i uwchraddio eu cyfleusterau, gan gynnwys toiledau a mannau cyffredin, yn gwneud gwahaniaeth mawr iddynt a’r bobl ifanc y maent yn eu gwasanaethu. Rydym hefyd yn gyffrous i roi profiad ymarferol ym maes adeiladu i 20 o bobl ifanc leol drwy fentora gan grefftwyr proffesiynol, yn ogystal â’r cyfle i weithio tuag at gymwysterau City &
Guilds. Drwy gyllid Pen y Cymoedd a’n model unigryw, edrychwn ymlaen at greu prosiect ‘ennill-ennill’ sy’n fuddiol i’r Clwb, y bobl ifanc a’r gymuned leol.” — Tom Vaughan – Volunteer It Yourself, Cyfarwyddwr Ôl-osod a Sgiliau Gwyrdd / Arweinydd Rhanbarthol De Cymru a De-orllewin Lloegr
 
“Hoffem ddweud diolch o galon i Tom a thîm VIY am ymgymryd â’r prosiect hwn, ac yn enwedig i Ben y Cymoedd am ei ariannu a’i wireddu! Bydd y prosiect hwn – adnewyddu ein hystafelloedd ymolchi a’n gofod cymdeithasol – o fudd mawr i bawb sy’n defnyddio Clwb Bechgyn a Merched Treorci. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r gwaith ac yn methu aros i weld y canlyniad terfynol! Diolch yn fawr iawn i bawb sy’n rhan ohono.” — Mel, Clwb Bechgyn a Merched Treorci
 
“Mae’r prosiect hwn yn ffordd wych o gyfuno gwelliannau hanfodol i gyfleusterau â sgiliau a chyfleoedd i bobl ifanc. Rydym yn falch o gefnogi prosiect sy’n helpu pobl ifanc i ennill profiad a chymwysterau go iawn, tra’n sicrhau bod y gofod cymunedol pwysig hwn yn parhau’n groesawgar, yn gynhwysol ac yn gynaliadwy i bawb.” — Shayla Walsh, Swyddog Cymorth y Gronfa – Cymuned
 
Mae’r cyllid hwn yn cynrychioli buddsoddiad gwirioneddol yn y gymuned leol — gan wella cyfleuster gwerthfawr a rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu, datblygu a chymryd camau ystyrlon tuag at eu dyfodol.
Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.