SWYDD WAG – Swyddog Cyllid a Gweinyddu

Mehefin 12, 2025

Lleoliad: Gweithio hyblyg gyda gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref (sylfaen bresennol: Ynyswen)
Cyflog: £27,300 – £29,400 + 6% pensiwn
Oriau: Llawn amser (37 awr/wythnos) neu ran-amser (o leiaf 0.6 FTE)
Dyddiad Cau: 18 Gorffennaf 5pm

Mae CIC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn buddsoddi dros £1.8m y flwyddyn yng Nghwm Castell-nedd, Afan, Rhondda a Chym Cynon tan 2043. Rydym eisoes wedi dyfarnu dros £9 miliwn mewn grantiau a benthyciadau – ac rydyn ni newydd ddechrau.

Rydym yn chwilio am Swyddog Cyllid a Gweinyddu rhagweithiol ac amlbwrpas  i ymuno â’n tîm bach ymroddedig. Os oes gennych sgiliau gweinyddu ariannol cryf, dawn ar gyfer gweithrediadau effeithlon, ac awydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau a mentrau lleol, rydym am glywed gennych.

Byddwch yn gweithio’n agos gyda’n Rheolwr Cyllid a Chronfa, gan gefnogi gweithrediadau o ddydd i ddydd gan gynnwys goruchwyliaeth ariannol, gweinyddu grantiau / benthyciadau, a chyfathrebu cyfryngau cymdeithasol. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys cydlynu cymorth busnes a chyfleoedd i weithio’n uniongyrchol gyda mentrau lleol.

Cyfrifoldebau Allweddol:

  1. Rheoli a monitro taliadau, bancio ac adroddiadau ariannol
  2. Cefnogi paratoi cyfrifon rheoli a diwedd blwyddyn
  3. Gweinyddu ein portffolio benthyciadau a chymorth prosesau rheoli grantiau
  4. Cydlynu allgymorth, cyfryngau cymdeithasol, a chynnwys gwefan
  5. Darparu cefnogaeth weinyddol ardderchog i’n tîm mewnol a’n rhanddeiliaid allanol

Bydd angen i chi fod yn drefnus iawn, TG hyderus, ac yn barod i gymryd menter.

I wneud cais:
E-bostiwch kate@penycymoeddcic.cymru i ofyn am becyn cais, ewch i www.penycymoeddcic.cymru/newyddion, neu ffoniwch ni ar 01685 878785.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.