SIOP GOFFI DDWYIEITHOG NEWYDD Â THEMA GYMREIG YN DERBYN £6,455.04 I HELPU GYDA CHOSTAU CYCHWYN

Gwnaeth yr ymgeisydd gais i’r gronfa gyda’r dyhead i agor siop goffi ddwyieithog ar thema Gymreig ym Marchnad hanesyddol Aberdâr, gan gynnig coffi, te a diodydd Cymreig eraill ynghyd â bwyd a gynhyrchir yng Nghymru. Y nod oedd hybu diwylliant lleol a Chymreig, yr iaith Gymraeg a bod yn lle cyfeillgar i gyfarfod.

Dyfarnwyd £6,455.04 iddynt i helpu gyda chostau cychwyn busnes.

Er gwaethaf cyfnod agor tawel ym mis Ionawr 2024, mae Helo Coffi bellach yn mynd o nerth i nerth. Mae ei faint cryno yn galluogi pobl i ddechrau neu ymuno mewn sgyrsiau gyda chwsmeriaid eraill ac yn aml mae awyrgylch bywiog. Mae yna lawer o gwsmeriaid newydd a rhai sy’n dychwelyd. Maent yn cael cynnyrch Cymreig gan fasnachwyr eraill ym Marchnad Aberdâr ac yn dod yn aelod cynhenid o Gymuned Marchnad Aberdâr.

“Galluogodd y cyllid gan Ben y Cymoedd fi i droi uned wag ym Marchnad Aberdâr yn siop goffi a llwyddais i agor Helo Coffi. Fy nod oedd darparu man cyfeillgar a chynhwysol lle gall pobl ddod am fwyd (o ffynonellau lleol lle bo modd) a sgwrs. Roedd cynnig gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog Cymraeg/Saesneg hefyd yn bwysig i mi. Mae Helo Coffi bellach yn gyrchfan boblogaidd i unigolion a grwpiau.”- Karin Mear, Helo Coffi

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.