PyC yn Cefnogi Grwpiau i ffynnu – Côr Meibion Treorci

Mae Côr Meibion Treorci yn enwog ar draws y byd am eu canu corawl hyfryd ac maent wedi eu lleoli yn Nhreorci ers 1947.

Yn ogystal â llu o ddigwyddiadau, cyngherddau a pherfformiadau yn lleol maent bob amser wedi bod ag amserlen brysur o berfformio ledled y DU a thramor.

Pan ddaethant at y gronfa yn gynnar yn 2023 roedd angen rhywfaint o help arnynt i osod Côr Meibion Treorci yn ôl yn gadarn ar lwyfan y byd ar ôl blwyddyn heriol yn dychwelyd o Covid. Roedd y pandemig wedi lleihau eu niferoedd ac wedi effeithio’n wael ar eu gallu i berfformio a chodi eu harian eu hunain.

Dyfarnwyd £3,000 iddynt i’w helpu gyda theithio ar gyfer eu tua 20 o ymrwymiadau yn ystod 2023.

Bellach mae ganddyn nhw bron i 100 o aelodau eto ac maen nhw’n ôl ar seiliau cadarn, gan newydd ddychwelyd o ddwy daith dramor lwyddiannus ym mis Mawrth/Ebrill 2024 i Monaco a Florida lle gwerthwyd pob tocyn i’r cyngherddau a buont yn llysgenhadon balch i Gymru.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.