Prydau bwyd Cymunedol

NODDFA COMMUNITY CENTRE – GLYNCORRWG

£2,500 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017

Nod y cais hwn oedd cefnogi darpariaeth prydau bwyd i’r gymuned leol o’r ganolfan ymhellach trwy brynu a gosod peiriant golchi llestri. Mae’r Gymdeithas Arlwyo Gofal Genedlaethol (NACC) yn teimlo bod tanfuddsoddi’n peri risg i bobl oedrannus ac yn rhoi pwysau diangen ar y GIG – gall gwasanaethau prydau bwyd helpu atal derbyniadau ysbyty ac estyn yr amser y gall trigolion fyw yn eu cartrefi.

Darparodd y grant y mwyafrif o’r cyllid ar gyfer gosod peiriant golchi llestri er budd y gymuned. Mae cannoedd o bentrefwyr yn mynychu digwyddiadau Canolfan Gymunedol y Noddfa ac mae’r peiriant golchi llestri wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol. Ers cael ei osod maent wedi cynnal noson Eidalaidd cinio Ffagots a Phys, Te Prynhawn a chinio Nadolig, a hwylusodd y peiriant golchi llestri waith y gwirfoddolwyr yn yr holl ddigwyddiadau hyn. Defnyddir y peiriant golchi llestri mewn 6 -10 o ddigwyddiadau mawr bob blwyddyn ond hefyd digwyddiadau wythnosol llai fel boreau coffi, Bingo a’r clwb dydd Gwener.

“Gall ein gwirfoddolwyr dreulio mwy o amser gyda’r trigolion a mwynhau’r digwyddiad yn lle bod yn y gegin…Mae wedi helpu ehangu ein gwasanaeth i gynnwys brecwast. Mae ein tua 30 o wirfoddolwyr a’r pwyllgor wedi elwa trwy wella pa mor gyflym a hwylus y gallwn weini a chlirio i fyny ar ôl digwyddiadau.” – Steve English

“Aruthrol. Gwych, pan fydd yn brysur. Cyfleus iawn pan fydd gennym ddigwyddiadau a’r bore coffi.” – Rita Clackworthy Gwirfoddolwr

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.