PICNIC YN Y PARC

CWMGWRACH YN SYMUD YMLAEN
£800 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN

Sefydlwyd y grŵp hwn ym mis Mai 2016, mae ganddi 5 aelod Pwyllgor a 12 gwirfoddolwr. Y llynedd gwnaethant godi £1500 trwy godi arian a chynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau llwyddiannus. Mae grwpiau eraill yn y pentref wedi cymryd rhan yn weithredol mewn rhedeg y digwyddiad ac mae ganddynt eu stondinau eu hunain. Maent yn dod â grwpiau unawd a chorawl i mewn i berfformio. Mae ganddynt ffrwd incwm gyson eisoes o’u clwb sinema ac yn gobeithio bod yn hunangynhaliol. Dyma grŵp poblogaidd sydd wedi’i drefnu’n dda, ac roedd y cais am grant yn weddol fach.

“Trefnom Bicnic yn y Parc yn Neuadd Lles a Pharc Cwmgwrach, darparom gantorion, bandiau byw, paentio wynebau a chastell neidio. Prif nod Cwmgwrach yn Symud Ymlaen yw dod â phobl y pentref a’r cylch ynghyd, i hyrwyddo gweithgareddau cymunedol a chymryd rhan.
Er gwaetha’r mellt a tharanau a’n gorfododd i symud rhai o’n gweithgareddau y tu mewn i’r neuadd i ddiogelu’r cyfarpar sain – cefnogwyd y digwyddiad yn dda ac roedd yn amlwg bod pobl wedi mwynhau eu hunain. Roedd cyfranogiad y gynulleidfa ar y llawr dawnsio’n cynnwys llawer o hwyl a chwerthin. Roedd cost y cantorion a’r band yn fwy na’r hyn a ddisgwyliwyd ond fe dalom y costau ychwanegol trwy godi arian gyda raffl ac yn gyffredinol helpodd y digwyddiad i bobl gysylltu a chael hwyl ac mae pawb yn edrych ymlaen at ein digwyddiad nesaf ym mis Awst.” Dyfyniad gan Roger Hopkin – Cwmgwrach yn Symud Ymlaen

Dyfyniadau o Facebook: “Diwrnod gwych, tywydd gwych, amgylchedd gwych! / Diwrnod anhygoel, wedi mwynhau’n fawr diolch am drefnu fe / Diwrnod gwych..diolch”

Dyfyniadau o Facebook: “Diwrnod gwych, tywydd gwych, amgylchedd gwych! / Diwrnod anhygoel, wedi mwynhau’n fawr diolch am drefnu fe / Diwrnod gwych..diolch”

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.