O Ddiflas i Ddisglair!

Mae Gwasanaethau Peintio ac Addurno Phill Godfrey wedi’u lleoli yng Nghwm Nedd ac maent wedi bod yn darparu gwasanaethau Peintio ac Addurno ledled Cymru a Lloegr gan gynnwys Domestig, Masnachol a Phreswyl ers dros 17 mlynedd.

O dan Rownd 15 o’n Cronfa Micro, rhoddodd PyC grant o £5,200 i’r busnes i gynorthwyo gyda phrynu peiriant chwistrellu paent a phlastr capasiti mawr.

“Drwy brynu’r peiriant paent chwistrellu/plastr mae wedi bod yn ased mawr i’n tîm wrth leihau’r amser a dreulir yn y grefft hen ffasiwn o blastro â llaw – gan leihau’r risg o anaf o lwyth gwaith trwm trwy hwylustod defnyddio’r peiriant.. Mae wedi darparu lefel wych o gymorth wrth gwblhau llawer o waith lleol i drigolion ac i rai busnesau lleol hefyd”. Perchennog – Phil Godfrey

Ar hyn o bryd mae Phil yn bwriadu ehangu capasiti eu gweithdy i’w galluogi i ymgymryd â lefel uwch o ddodrefn pwrpasol ac ail-baentio ceginau, a allai arwain at y busnes yn ceisio cyflogi 1-2 aelod ychwanegol o staff i gynorthwyo gyda’r ehangu hwn.

Mae PYC yn dymuno llwyddiant parhaus i’r busnes yn y dyfodol a gellir eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol neu gysylltu’n uniongyrchol fel a ganlyn:

Facebook
https://www.facebook.com/phillgodfrey90/

E-bost
phillgodfrey@hotmail.co.uk

Ffôn
07792 912 158

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.