PEN Y CYMOEDD

Monitro a Gwerthuso

Croeso i’n hadran monitro a gwerthuso

Os byddwch yn cael grant neu fenthyciad o’r Gronfa Micro neu’r Gronfa Gweledigaeth, byddwn yn gofyn i chi adrodd yn ôl i ni am yr hyn a ddigwyddodd o ganlyniad i dderbyn y dyfarniad.

Deallwn fod pethau’n newid, ac nad ydynt bob amser yn dilyn y cynllun a baratowyd. Weithiau maent yn mynd yn llawer gwell na’r disgwyl – a thro arall gan y cyfan fynd yn chwilfriw! Peidiwch â phoeni, dim ond i chi gadw mewn cysylltiad. Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae modd dysgu ohoni.

Ar y tudalennau hyn, byddwch yn cael llawer o wybodaeth i’ch helpu i fonitro a gwerthuso’ch prosiect, a darparu’r wybodaeth mae arnom ni ei hangen.

Gallwch hefyd weld sut rydym ni yn y Gronfa Gymunedol CBC yn dod ymlaen – rydym yn monitro ein perfformiad ni ein hunain yn ogystal. Rydym yn comisiynu ymgynghorwyr annibynnol i’n helpu ni gyda’r elfen hon dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Maent yn gweithio gyda ni i werthuso’r canlynol:

A
Effaith a deilliannau prosiectau sydd wedi derbyn cymorth gan y Gronfa Gymunedol
B
Darparu’r Weledigaeth Gymunedol fel y nodir hi ym Mhrosbectws y Gronfa
C
Arferion gweithio ac effeithiolrwydd y Gronfa Gymunedol ei hun – pa mor dda rydym ni’n gwneud ein gwaith

Deall y Jargon

Monitro

Mae’r broses hon yn aml yn ymwneud â ffigurau ac yn broses sy’n ymwneud â chasglu gwybodaeth allweddol ynghylch unrhyw brosiect yn barhaus ac yn rheolaidd.

Mewnbwn

Y buddsoddiad sydd ei angen i wneud i’r prosiect ddigwydd, staff, cyllideb, gwirfoddolwyr ac ati.

Allbwn

Cynhyrchion, gwasanaethau neu gyfleusterau sy’n dod o ganlyniad i weithgareddau’r prosiect.

Deilliannau (cyfeirir atynt weithiau fel ‘canlyniadau’)

Y gwahaniaeth rydych yn ei wneud – newidiadau, buddion, dysgu, neu effeithiau eraill all ddod o’r hyn mae’r prosiect yn ei wneud, ei gynnig neu ei ddarparu.

Effaith

Effeithiau ehangach neu mwy hir-dymor a ddaw o allbwn, deilliannau a gweithgareddau prosiect neu sefydliad.

Adrodd yn ôl ar eich prosiect a chipio effaith

Beth yw pwysigrwydd adrodd a chipio effaith?

Ar ein cyfer ni: rhaid i ni ystyried pa effaith a gafodd ein cyllid fel bod modd i ni ddysgu o’r llwyddiannau a’r methiannau a dweud wrth y gymuned pa effaith a gafwyd.

Ar eich cyfer chi: gall bod yn ymwybodol o beth sy’n gweithio a beth nad yw’n llwyddo cystal eich helpu chi i reoli eich prosiect a’ch gwasanaethau yn fwy effeithiol. Byddwch yn fwy medrus wrth ymdopi ag anawsterau. Hefyd, bydd yn haws i chi adnabod cyfleoedd i addasu a gwella eich ymarfer.

Mae’n golygu y gallwch chi a ninnau wneud y canlynol:

  • Gweld beth sy’n gweithio’n dda
  • Gweld a gweithredu ar bethau yr hoffech eu gwneud yn well
  • Rhannu profiadau, awgrymiadau defnyddiol a syniadau ag eraill
  • Gofyn i eraill am help ac adborth i fynd i’r afael â heriau
  • Lleihau dyblygu
  • Dangos i gyllidwyr a rhai sy’n gwneud penderfyniadau sut mae eich gwaith chi’n gwneud gwahaniaeth i gyflawni cyllido a chymorth yn y dyfodol

Y peth pwysig i’w gofio yw bod monitro a gwerthuso’n bethau positif. Byddant yn eich helpu i reoli a chyflenwi eich prosiect, mesur y gwahaniaeth a wnaed gan eich prosiect, ac yna dweud wrth bobl amdano!

Beth fydd y gronfa’n ei ddisgwyl gennych chi:

Am fanylion sy’n sôn yn benodol am adrodd ar y Gronfa Micro a’r Gronfa Gweledigaeth, gweler yr adran olaf – ond anogir chi i ddarllen ymlaen am syniadau defnyddiol a chymorth.

Gallwch gyflwyno’r wybodaeth i ni ym mha ffordd bynnag sy’n gweithio orau i chi, e.e. trwy ddefnyddio’r canlynol:

  • gwerthusiad
  • adroddiad blynyddol
  • adborth gan staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr
  • graffiau, siartiau, ystadegau a data
  • dec sleidiau a phostiadau blog
  • fideos, lluniau a ffeithluniau
  • cofnodion cyfarfodydd.

Sut mae pethau’n mynd o’n rhan ni?

Monitro a Gwerthuso: Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd CBC

Rydym wastad wedi ymgysylltu ag ymgynghorwyr allanol i graffu ar y ffordd rydym yn gweithio fel sefydliad, pa mor effeithiol yw’r rhaglen sy’n cael ei darparu a’i chefnogi, beth sy’n gweithio’n dda, beth yw’r rhwystrau – ac yn fwyaf pwysig, pa effaith mae’r gronfa’n ei chael yn y cymunedau mae’n eu gwasanaethu, yn awr ac yn yr hir-dymor.

Rhwng 2019 a 2025 buom yn partneru gyda Wavehill, a phleser o’r mwyaf i ni oedd dechrau gweithio gyda People & Work fel partner newydd yn 2026.

A hwythau’n adrodd yn flynyddol, mae’r gwaith maent yn ymgymryd ag ef yn cynnwys y canlynol:

  1. dadansoddiadau o ddata monitro rhaglenni;
  2. holiaduron ar-lein a chyfweliadau gyda thîm Pen y Cymoedd ac aelodau o’r Bwrdd;
  3. arolwg ar-lein o geisiadau am grant, a derbynwyr grant;
  4. cyfweliadau manwl ac ymweliadau safle gyda sampl o’r rhai a dderbyniodd grant (Micro a Gweledigaeth) a datblygu astudiaethau achos;
  5. cyfweliadau gyda rhanddeiliaid – ein rhanddeiliaid yw’r rhai hynny a chanddynt ddiddordeb yn y Gronfa Gymunedol, neu a all effeithio arni neu gael eu heffeithio ganddi, e.e. aelodau a swyddogion awdurdodau lleol, sefydliadau ambarél, Interlink a NPT CVS; a
  6. gweithdy dysgu ar ôl adrodd yn ôl, a fforwm drafod ar-lein.

Rydym wedi ymrwymo i wella’n modd o weithredu a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned; isod gwelir rhai o’r argymhellion a’r ymatebion blaenorol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr argymhellion, neu os hoffech rannu eich barn a’ch syniadau am y gronfa gyda’n partner, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm staff yma.

Ymateb y Bwrdd 2021

Cliciwch yma i gael y canfyddiadau

Ymateb y Bwrdd 2020

Cliciwch yma i gael y canfyddiadau

Adroddiad Gwerthuso 2020

Lawrlwythwch y crynodeb yma

Ymatebion 2019

Cliciwch yma i weld y canfyddiadau ac ymatebion y Bwrdd

Beth allwch chi ei wneud?

  1. Cynllunio yma i weld y canfyddiadau ac ymatebion y bwrdd
    Peidiwch â chael eich temtio i aros hyd ddiwedd y prosiect, neu nes bod rhywun yn gofyn i chi; mae rhoi amser yn ystod y broses yn gwneud y dasg yn haws yn y diwedd, ac yn golygu nad ydych yn colli unrhyw wybodaeth ddefnyddiol neu ffeithiau / anecdotau.
  2. Cynllunio beth rydych am ei gofnodi

Dyma rai enghreifftiau (ond byddwch chi’n gwybod beth sy’n benodol i chi)

  • Beth oedd y broblem neu’r cyfle oedd yn sail i’r cyfan
  • Beth oeddech chi’n cynllunio i’w wneud
  • Sut mae’r gwaith ei hun wedi / yn dod yn ei flaen
  • Beth sydd wedi mynd yn well na’r disgwyl
  • Pa heriau y bu’n rhaid eu hwynebu
  • Pwy arall sydd wedi chwarae rhan (cydweithwyr, ymddiriedolwyr, cwsmeriaid, gwirfoddolwyr), ac ym mha ffordd
  • Pa adborth a gafwyd
  • Casglu straeon a thystiolaeth am y gwahaniaeth rydych yn helpu i’w wneud
  • Pwy arall yn y gymuned all roi sylwadau ar yr hyn rydych yn / wedi ei wneud (gofynnwch iddynt am eu sylwadau, a rhannu syniadau ynghylch sut y gellid gwella pethau, yn seiliedig ar yr hyn a ddysgwyd)
  • Ydych chi wedi rhannu gwybodaeth yn gyhoeddus ynghylch pa gyllid a dderbyniwyd gennych, a sut mae’r prosiect wedi dod yn ei flaen

Mae ystadegau’n grêt, ond felly hefyd y straeon unigol sy’n dod oddi wrth bobl sy’n gweithio gyda’ch prosiect / cydweithwyr / cwsmeriaid.

Meddyliwch am eich cynulleidfa

Os byddwch yn gwneud y gwaith hwn yn dda, bydd yn dylanwadu ar yr hyn y byddwch yn ei adrodd yn ôl i’r cyllidwr, ond gellid hefyd ei ddefnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol / gwefan i ddweud wrth bobl beth rydych yn ei wneud.

Dylech bob amser rannu eich gwybodaeth a’ch mewnwelediad gyda’r canlynol:

  • Eich buddiolwyr neu gwsmeriaid / staff a gwirfoddolwyr

Ar ôl i chi adrodd i ni fel cyllidwr, meddyliwch sut i rannu’r wybodaeth yn ehangach – gall fod yn effeithiol wrth ddangos i’ch cymuned, cwsmeriaid, a chyllidwyr eraill beth rydych wedi’i gyflawni, a helpu i ysgogi diddordeb yn yr hyn rydych yn ei wneud.

  • Gallech ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddangos y gwahaniaeth a wnaed gan yr arian, a’r hyn rydych wedi ei ddysgu o’r broses. Lle bynnag y bo modd, defnyddiwch ddata ac achosion achos, dyfyniadau, lluniau a ffilmiau.

Awgrymiadau a Chymorth

  1. Monitro: casglu a dadansoddi gwybodaeth, sy’n cael ei wneud tra bod y prosiect ar waith. Mae data monitro fel arfer yn cael ei adrodd i gyllidwyr (a/neu reolwyr o fewn eich sefydliad) i ddangos y cynnydd a wneir. Mae data monitro’n ateb cwestiynau megis yr isod:
  • Pa gynnydd a wnaed gan y prosiect yn nhermau ymgymryd â’i weithgareddau?
  • Faint o arian a wariwyd hyd yma?
  • Ydy’r prosiect yn datblygu yn ôl y cynllun gwreiddiol?
  • Mae monitro data hefyd yn bwydo i mewn i’r dasg o werthuso prosiect.
  1. Gwerthuso: barnu llwyddiant prosiect; darganfod a oedd prosiect wedi bodloni’r amcanion ai peidio. Caiff gwerthusiadau eu cynnal am wahanol resymau, ond mae’r ffocws fel arfer ar weld pa wahaniaeth mae eich prosiect wedi’i wneud. Mae’r cwestiynau a ofynnir fel rhan o werthusiad yn cynnwys y canlynol:
  • Pa wahaniaeth a wnaed gan y prosiect hwn, i bwy a pham?
  • Beth weithiodd yn dda, i bwy, dan ba amgylchiadau, pa bryd a pham?
  • A wnaeth unrhyw beth annisgwyl ddigwydd?
  • Pe byddech yn rhedeg y prosiect hwn eto, a fyddech chi’n gwneud unrhyw beth yn wahanol?
  • Ydy’r prosiect ar y llwybr iawn i gwrdd â’r deilliannau disgwyliedig?

Gwahanol Fathau o Werthuso

a. Gwerthuso prosiect – sut y cafodd y prosiect ei gyflenwi?

Mae hyn yn edrych ar sut y cafodd prosiect ei gyflenwi, gan nodi pethau sydd wedi ei helpu neu ei rwystro. Isod gwelir enghreifftiau o’r cwestiynau a atebir gan werthusiadau proses:

  • Beth oedd barn pobl oedd yn cymryd rhan a/neu staff yn y dasg o gyflenwi’r prosiect? Oedden nhw’n teimlo ei fod wedi gweithio ai peidio? Pam a sut?
  • Pa agweddau o’r prosiect a werthfawrogid fwyaf, a pha rai oedd yn achosi trafferthion? A oedd hyn yn wahanol yn achos grwpiau gwahanol o bobl?
  • Pwy gymerodd ran yn y prosiect, pwy na chymerodd ran, a pham?
  • Wrth edrych yn ôl, sut y gellid gwella’r prosiect? Beth fyddech chi, neu beth allech chi, ei wneud yn wahanol?
  • Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth? A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu sut i ymgymryd â gwerthusiad prosiect?

Prif nod proses werthuso yw deall sut y gweithredwyd ac y cyflenwyd prosiect, a nodi ffactorau sydd wedi helpu neu rwystro’i effeithiolrwydd. Gall y broses werthuso gynhyrchu disgrifiad manwl o’r gweithgareddau sy’n rhan o’r gwaith o gyflenwi prosiect, pwy sy’n eu darparu, pa ffurf a gymerant, sut y cânt eu cyflenwi, a beth yw profiad y cyfranogwyr a’r rhai sy’n eu cyflawni. Gall hefyd ddarparu dealltwriaeth ddofn o’r penderfyniadau, dewisiadau a dyfarniadau perthnasol, sut a pham y gwneir hyn, a beth sy’n ei siapio.

Mae’r broses hon fel arfer yn cynnwys:

  • Trafodaethau gyda’r tîm oedd yn ymwneud â rheoli a chyflenwi’r prosiect; beth, o’u persbectif hwy (a’ch persbectif chithau, o bosib) oedd wedi gweithio? A beth oedd wedi methu?
  • Arolwg adborth o’r rhai a gefnogwyd. Beth oedd eu barn hwy am y gwasanaeth a dderbyniwyd ganddynt?
  • Dadansoddiad o ddata monitro, e.e. y nifer a’r math o bobl oedd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, gwariant ac ati.

b. Deilliannau a gwerthuso effaith – pa wahaniaeth a wnaed gan y prosiect?

Pa effaith a brofwyd gan yr unigolion a gefnogwyd? Mae’r math yma o  werthusiad yn ymwneud â darganfod p’un ai a oedd prosiect yn gyfrifol am achosi i ddeilliant neu effaith benodol ddigwydd.

Mae’r math yma o werthusiad hefyd yn ceisio amcangyfrif beth fyddai wedi digwydd beth bynnag – hynny yw, beth fyddai wedi digwydd os nad oedd y prosiect yn bodoli, neu os nad oedd y weithred roedd yn ei gefnogi wedi digwydd o gwbl. Mae’r dull a ddefnyddiwch i ymgymryd â’ch gwerthusiad effaith neu ddeilliant yn dibynnu ar yr adnodd sydd ar gael i chi,  a’r data y gallwch ei gasglu.

Mae’r math o ddata y gallwch ei gasglu, fodd bynnag, yn cynnwys y canlynol:

Data Meintiol: pethau y gellir eu cyfrif a’u defnyddio i fesur newid sydd wedi digwydd. Fel arfer, mae angen i ddata o’r fath fod ar gael ar gyfer sampl gynrychioliadol o’r bobl neu’r sefydliadau sydd wedi cael eu cefnogi,  fel y gellir gweld beth oedd y newid cyfartalog. Gellir ei gasglu trwy fonitro data neu drwy arolygon.

Data Ansoddol: mae hyn yn ymwneud mwy â disgrifio rhywbeth yn hytrach na’i fesur. Mae’r math yma o ddata’n ddefnyddiol i helpu i ddeall sut neu pam bod effaith wedi digwydd, ond mae hefyd yn cipio effeithiau na ellid efallai eu mesur yn feintiol, e.e. sut mae pobl yn teimlo amdanynt eu hunain neu am ardal. Mae’r math yma o ddata’n aml yn cael ei gasglu trwy gyfweliadau dwfn gyda phobl neu grwpiau ffocws. Yn aml caiff ei adrodd fel astudiaeth achos.

Dolenni Defnyddiol

Mae hwn yn becyn defnyddiol i fesur effaith: https://mooreks.co.uk/upload/pdf/ImpactToolkit2013_updated_FINAL_1.pdf

A dyma un arall: https://www.thinknpc.org/resource-hub/npcs-four-pillar-approach/

https://www.gov.uk/government/publications/evaluation-in-health-and-well-being-overview/outcome-evaluation

Profiling Places Wales: Mae’r pecyn hwn yn darparu ystod o wybodaeth am drefi a llefydd ledled Cymru. Mae’n ddefnyddiol iawn os oes arnoch angen ystadedau am ardal benodol: http://www.profilingplaces.wales/chooseplaces.aspx

Mae Thriving Places Wales yn seiliedig ar y Thriving Places Index arloesol gan Happy City, sy’n mesur pa mor dda mae ardaloedd yn llwyddo i ddatblygu’r  amgylchiadau ar gyfer llesiant teg, cynaliadwy. Gallai fod yn ddefnyddiol os ydych yn chwilio am ystadegau ar lefel Awdurdod Lleol: http://www.thrivingplaces.wales/default?lang=en-GB

InfoBase Cymru: Angen ystadegyn? Byddwch yn debygol o ddod o hyd iddo yma: http://www.infobasecymru.net/IAS/eng

NOMIS: gwasanaeth a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i roi mynediad am ddim i’r ystadegau’r farchnad lafur mwyaf manwl a diweddar yn y DU o ffynonellau swyddogol. Gallwch deipio cod post i mewn i weld (a lawrlwytho) yr holl ystadegau diweddaraf ar boblogaeth, strwythur oedran, diweithdra ac ati: https://www.nomisweb.co.uk/

CRONFA MICRO

Yn eich ffurflen gais, rydym yn gofyn i chi ddweud wrthym beth y gobeithiwch fydd tri phrif ddeilliant eich prosiect (gall fod rhagor!). Rydym yn deall bod pethau’n newid, ac nad ydynt bob amser yn dilyn y drefn a nodwyd, ond peidiwch â phoeni – rydym yn dysgu trwy bob profiad.

Pan fydd y prosiect a ariannwyd wedi dod i ben, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym a gyflawnwyd y deilliannau disgwyliedig ai peidio, a beth oedd eich profiad chi. Mae darparu’r wybodaeth hon yn rhan o’ch ymrwymiad pan fyddwch yn derbyn eich grant. Byddwn naill ai’n anfon ffurflen atoch i’w llenwi, neu’n cael gair gyda chi ar y ffôn – p’un bynnag sydd orau gennych chi. Mae lluniau a dyfyniadau gan unrhyw gyfranogwyr yn helpu i ddod â’r prosiect yn fyw! Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gofyn am dystiolaeth o wariant – derbynebau, anfonebau ac ati.

CRONFA GWELEDIGAETH

Mae’r prosiectau a gefnogwyd gan y Gronfa Gymunedol yn amrywio’n fawr. Bydd rhai’n cael eu hariannu dros nifer o flynyddoedd, gyda thaliadau arian refeniw’n cael eu gwneud drwy gydol cyfnod y prosiect – gall eraill fod ag angen dim ond un taliad grant cyfalaf. Bydd gofynion adrodd yn ôl yn cael eu teilwra i gyd-fynd â’r angen. Beth bynnag fo’r trefniadau, rhaid i bawb sy’n derbyn cyllid ddweud wrthym sut y gwariwyd yr arian ac, yn holl bwysig, pa wahaniaeth a wnaed gan y gwaith a ariannwyd.

  1. Cyn cychwyn ar y gwaith a gyllidir, byddwn yn cwrdd â chi i adolygu’r cynllun a ddarparwyd gennych yn eich ffurflen gais, ac i drafod a chytuno ar y broses monitro a gwerthuso, unrhyw gymorth y gallech fod ag angen amdano, canllaw / gofynion cyhoeddusrwydd ac ati.
  2. Fel y gwyddoch, bydd angen i chi gyflwyno diweddariadau cyson i ni ar y modd y cyflenwir y prosiect, cyn cychwyn y cyfnod ariannu ac ar ei ddiwedd. Yn achos prosiectau mwy o faint, gallwn hefyd ofyn am adroddiad etifeddiaeth terfynol 6 mis ar ôl i’r gwaith a gyllidir gael ei gwblhau.

Mae’r prosiectau a gefnogwyd gan y Gronfa Gymunedol yn amrywio’n fawr. Bydd rhai’n cael eu hariannu dros nifer o flynyddoedd, gyda thaliadau arian refeniw’n cael eu gwneud drwy gydol cyfnod y prosiect – gall eraill fod ag angen dim ond un taliad grant cyfalaf. Bydd gofynion adrodd yn ôl yn cael eu teilwra i gyd-fynd â’r angen. Beth bynnag fo’r trefniadau, rhaid i bawb sy’n derbyn cyllid ddweud wrthym sut y gwariwyd yr arian ac, yn holl bwysig, pa wahaniaeth a wnaed gan y gwaith a ariannwyd.

Dyma’r hyn y byddwn yn gofyn i chi amdano:

Prosiectau lle caiff arian ei dalu’n llawn ar y cychwyn

Adroddiad cynnydd anffurfiol dros dro

Adroddiad Diwedd Prosiect

Adroddiad Etifeddiaeth

Prosiectau sy’n rhedeg am fwy na blwyddyn

Proffil gwario a hawlio grant

Ffurflen Ddiweddaru Dros Dro pryd bynnag y byddwch yn gwneud cais am grant

Ffurflen Adroddiad Blynyddol ar bob pen-blwydd eich dyfarniad grant

Ffurflen Adroddiad Cwblhau ar ddiwedd eich prosiect, pan fydd y gweithgareddau a ariannwyd wedi dod i ben.

Ffurflen Adroddiad Etifeddiaeth 6–12 mis ar ôl cwblhau’r gwaith a ariannwyd. I’w gytuno gyda chi ar ddechrau’r prosiect.

Yr hyn y disgwyliwn ei weld mewn adroddiad blynyddol 

  1. Arolwg o nodau gwreiddiol y prosiect / gweithgaredd(au) – ydy’r rhain yn dal yn ddilys? Oes angen eu diwygio?
  2. Pa weithgareddau sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
  3. Beth a gyflawnwyd? Ai dyna a ddisgwylid?
  4. Pa wahaniaeth mae’r prosiect wedi ei wneud hyd yma? Sut y gwyddoch chi – pa dystiolaeth sydd gennych i brofi hyn (e.e. canlyniadau arolygon, achosion achos ac ati)?
  5. Beth sydd wedi gweithio’n dda? Beth oedd heb fod cystal?
  6. Beth, os yn berthnasol, sydd wedi newid yn eich prosiect yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod hwn?
  7. Ydy sefyllfa ariannol y prosiect yn cyd-fynd â’r rhagolygon? Os nad ydynt, beth ddigwyddodd?
  8. Beth yw’r gweithgareddau allweddol a gynllunnir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod?
  9. Beth fydd yn digwydd pan ddaw’r cyllid i ben? Sut rydych chi’n cynllunio ar gyfer hyn?

Yr hyn y disgwyliwn ei weld mewn adroddiad cwblhau

Adlewyrchu ar, a dangos, y gwahaniaeth a wnaed gan eich prosiect, a beth a ddysgwyd. Bydd ffotograffau a dyfyniadau’n helpu i ddod â’ch gwaith yn fyw, felly cofiwch eu cynnwys os yn bosibl. Dylai’r adroddiad gynnwys y canlynol:

  1. Adolygiad o amcanion gwreiddiol y prosiect – pe byddech yn ail-wneud y prosiect, a fyddai eich amcanion yn aros yr un fath?
  2. Pa weithgareddau (deilliannau) sydd wedi digwydd dros gyfnod y prosiect? Gallwch sôn hefyd am agweddau a ariannwyd gan eraill.
  3. Beth sydd wedi’i gyflawni o ganlyniad i’r gweithgareddau (y deilliannau)? Oedd e fwy neu lai yr hyn a ddisgwylid?
  4. Pa wahaniaeth a wnaed gan y prosiect? Sut y gwyddoch chi hynny – pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich datganiad (e.e. canlyniadau arolygon, astudiaethau achos ac ati)?
  5. Beth weithiodd yn dda? Beth oedd heb weithio cystal? Beth ydych chi wedi’i ddysgu fydd yn dylanwadu ar eich gwaith yn y dyfodol?
  6. Oedd ochr ariannol y prosiect yn cyd-fynd â’r rhagolygon? Os nad oeddynt, pam?
  7. Beth yw eich cynlluniau’n awr? Sut y bydd yr hyn a gyflawnwyd yn cael ei gynnal a’i ddatblygu?
  8. Pa gyllid arall y llwyddwyd i’w sicrhau ar gyfer y prosiect? A ddaeth rhagor o adnoddau i law wrth i’r prosiect ddatblygu?
  9. Unrhyw beth arall yr hoffech i ni ei wybod.

Yr hyn y disgwyliwn ei weld mewn adroddiad etifeddiaeth

  • Ydy’r gwasanaeth neu’r cymorth roedd eich prosiect yn ei ddarparu yn dal i fynd? Os felly, sut mae’n cael ei ariannu?
  • A fu yna unrhyw newidiadau yn y modd y cyflenwir y prosiect ers i gyllid Pen y Cymoedd ddod i ben?
  • Beth yw sefyllfa ariannol eich sefydliad? Ydy e’n ddi-ddyled? Oes gennych chi gronfa hapddigwyddiad?
  • (Os yn berthnasol) Beth mae’r bobl a gyflogwyd yn eich prosiect yn ei wneud yn awr?
  • Ydy’r budd a grëwyd gan eich prosiect mor glir heddiw ag yr oedd 6 mis yn ôl? Ydy’r deilliannau a gynhyrchwyd gan eich prosiect yn dal i fodoli? Os ydynt, sut gwyddoch chi hynny? Beth yw’r dystiolaeth i ddangos bod y deilliant yn dal i fodoli?

Dolenni Cyflym

  • @Cael eich ysbrydoli

Er mwyn cael eich ysbrydoli, darllenwch yr astudiaethau achos a’r hanesion am y grwpiau, y busnesau a’r gweithgareddau a gefnogir gan y Gronfa Gymunedol.

Gweld ein Hastudiaethau Achos

  • @Digwyddiadau i Ddod, a’r Newyddion Diweddaraf

Daliwch lan gyda digwyddiadau diweddaraf Pen y Cymoedd CBC, a cael yr wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf!

Gweld y Diweddaraf

  • @Gwneud cais am Gymorth Ariannol

Dysgwch fwy am y Gronfa, a lawrlwytho ffurflen gais am grant. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais gorffenedig drwy’r wefan hon!

Cliciwch yma i wneud cais