Mae Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd wedi cyhoeddi y bydd ei Chyfarwyddwr Gweithredol, Kate Breeze, yn gadael y sefydliad ar 16 Tachwedd 2026 ar ôl deng mlynedd o wasanaeth.

Medi 16

Mae Kate, sydd wedi gweithio efo’r Gronfa ers ei sefydlu, wedi derbyn swydd Rheolwr Datblygu Cymru gydag Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo.
 
Yn ystod ei deiliadaeth mae Kate wedi chwarae rhan ganolog wrth sefydlu Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd fel un o gronfeydd cymunedol mwyaf effeithiol yng Nghymru, gan gefnogi cannoedd o brosiectau a sicrhau manteision parhaol ar draws cymunedau’r Gronfa.
 
Meddai Thomas Tudor Jones, Cadeirydd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd:
“Mae arweinyddiaeth, ymrwymiad a gweledigaeth Kate wedi bod yn allweddol  i lwyddiant Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd dros y degawd diwethaf. Mae ei hymroddiad i’r cymunedau rydyn ni’n gwasanaethu wedi helpu i greu sefydliad cryf, uchel ei barch ac effeithiol sy’n gadael etifeddiaeth barhaol ar draws cymoedd uchaf Castell-nedd, Afan, Rhondda a Cynon. Er ein bod, yn naturiol, yn drist o’i gweld yn gadael, rydym wrth ein bodd amdani ac yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y bennod newydd gyffrous hwn. Hoffai’r Bwrdd ddiolch yn ddiffuant am ei chyfraniad rhagorol.”
 
Dywedodd Natalie Sargent, Uwch Reolwr Gweithrediadau i Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo:

“Rydym wrth ein bodd y bydd Kate yn ymuno ag Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo fel Rheolwr Datblygu Cymru. Ar ôl adeiladu perthynas waith cryf a chadarnhaol gyda Kate trwy ein hymrwymiad cyffredin i gefnogi hen gymunedau meysydd glo, rydym yn gwybod uniongyrchol yr angerdd, yr arbenigedd a’r dull cydweithredol y mae hi’n ei gyflwyno. Bydd profiad helaeth Kate mewn datblygiad cymunedol, gwneud grantiau a gweithio mewn partneriaeth, ynghyd â’i dealltwriaeth ddofn o’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru, yn gaffaeliad aruthrol i’n sefydliad. Rydym yn gyffrous i groesawu Kate i’r tîm ac edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â hi i greu effaith gadarnhaol barhaol i gymunedau ledled Cymru.”

Bydd rhagor o wybodaeth am drefniadau ar gyfer recriwtio Cyfarwyddwr Gweithredol newydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.