Jessie James, Rheolwr y Gronfa

Medi 10

Jessie James yw Rheolwr Cronfa Fferm Wynt Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, gan gefnogi ymgeiswyr, sefydliadau a ariennir a phartneriaid ar draws Cwm Castell-nedd, Afan, Rhondda a Cynon.

Mae Jessie yn dod â phrofiad helaeth ar draws y sectorau gwirfoddol, cymunedol a chodi arian yng Nghymru. Cyn ymuno â’r Gronfa, bu’n gweithio fel Rheolwr Rhoi Unigol yn UWC Atlantic, lle arweiniodd weithgareddau codi arian, rheoli perthnasoedd rhoddwyr a chefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno cyllid grant ac ysgoloriaeth.

Mae hi hefyd yn aelod o Bwyllgor Cynghori Plant Mewn Angen Cymru y BBC, gan gyfrannu at asesu ceisiadau am gyllid gan sefydliadau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ledled Cymru.

Yn siaradwr Cymraeg rhugl gyda gwreiddiau teuluol yn y Rhondda, mae gan Jessie gysylltiad personol cryf â’r cymunedau a gefnogir gan y Gronfa. Mae hi’n angerddol am newid a arweinir gan y gymuned, buddsoddiad seiliedig ar le a helpu sefydliadau lleol i gael mynediad i’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wneud gwahaniaeth parhaol.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.