Gŵyl Gerddoriaeth Cwmaman

£5,000 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017

Dyma ddigwyddiad lleol unigryw a drefnir yn dda, sy’n darparu cyfleoedd i gerddorion lleol berfformio, ac sy’n rhoi hwb i’r economi leol. Cadarnhaodd y lleoliadau, tafarndai a Top Club, y llynedd fod eu trosiant dros benwythnos yr ŵyl yn sylweddol ac yn hwb pwysig iddynt yn ystod y cyfnod tawel cyn y Nadolig. Mae myfyrwyr lleol yn cael cyfleoedd i ddysgu am grefft y llwyfan hefyd.

Mae’r grŵp yn cydweithio’n agos â Swyddog Trwyddedu a Swyddog Cymunedol yr Heddlu lleol i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal heb drafferth. Cynhelir cyfarfod ar y cyd bob mis Medi gyda’r holl Landlordiaid, Cynghorwyr lleol a’r Heddlu cyn bod yr ŵyl yn digwydd.

Mae’r hyn a ddechreuodd fel syniad ar gyfer dod ynghyd fel cerddorion yn 2008 wedi tyfu i fod yn uchafbwynt blynyddol yn yr ardal.

“Mae’r digwyddiad bellach yn cynnwys cymysgedd o genres; mae’r digwyddiad Choirs in the Church wedi codi proffil y Côr Merched Dare to Sing o Gwm Dar. Roedd y Shepherds Arms hefyd yn gallu arddangos ei hystafell ddigwyddiadau lan y grisiau. Dyma wir ddigwyddiad cymunedol sy’n cynnwys landlordiaid lleol, staff, corau lleol, swyddogion cyswllt yr heddlu a’r gymuned gyfan. O ganlyniad i’n llwyddiant eleni rydym wedi codi proffil yr ŵyl eto a gallwn ddweud bod gennym aelodau pwyllgor a gwirfoddolwyr newydd.” Dyfyniad gan Robert Jenkins – Gŵyl Gerddoriaeth Cwmaman

Dyfyniadau o Facebook – “diolch yn fawr iawn i chi a’r tîm am wneud cymaint o waith caled bob blwyddyn, da iawn byt” / “llawer iawn o ddiolch i chi a’r holl drefnwyr, dwi’n methu â chredu gymaint o waith hynod galed y mae’n ei gymryd, mae’n mynd yn well bob blwyddyn”

  •  
Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.