Pen Y Cymoedd

Ynghylch ein Cronfa Gymunedol

Cwestiynau Cyffredin

Sut y cafodd y gronfa ei sefydlu?

Pan enillodd y cwmni ynni Vattenfall y contract gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Fferm Wynt Pen y Cymoedd, cytunodd y cwmni y byddent yn sefydlu Cronfa Gymunedol a gâi ei rheoli’n annibynnol, er budd y cymunedau hynny oedd yn cael eu heffeithio’n fwyaf uniongyrchol gan y datblygiad. Mae cronfeydd tebyg i’w cael mewn ardaloedd eraill lle mae ffermydd gwynt yn gweithredu, ond gydag incwm mynegrifol wedi’i warantu o £1.8 miliwn y flwyddyn (ystyr mynegrifol yw bod ynghlwm â graddfa chwyddiant, felly yn 2025 roedd yn £2.5 miliwn) hyd at 2043, Pen y Cymoedd yw’r gronfa fwyaf o’i bath yng Nghymru a Lloegr.

Sefydlwyd y Gronfa fel Cwmni Buddiant Cymdeithasol (CBC), sicrhau annibyniaeth oddi wrth strwythurau presennol; fel sefydliad nid-er-elw mae’n gofalu bod adnoddau’n cael eu buddsoddi mewn modd fydd yn rhoi’r budd cymunedol gorau posibl i brosiectau lleol sy’n cael blaenoriaeth. O’r cyllid a ddyfarnwyd, dyrennir 74.5% i Gyllido Gweledigaeth, 12.5% i Gyllido Micro, a 13% i gostau gweithredu.

Pa gymunedau sy’n cael budd o’r gronfa?

Ar y cyfan, y cymunedau sy’n gymwys i dderbyn cymorth yw’r rhai sydd wedi’u lleoli yn rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae rhestr lawn o’r trefi a’r pentrefi o fewn ein Hardal Budd i’w gweld yma.

Mae gennym ddiddordeb mewn ceisiadau am weithgareddau a fydd yn cael effaith bositif ar gymunedau o fewn yr ardal fudd hon. Mae modd i’r ymgeiswyr fod wedi eu lleoli y tu allan i’r ardal, ond rhaid i’r weithgaredd neu’r prosiect a gynigir fod o fudd uniongyrchol i’r cymunedau o fewn yr ardal. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu eich cynllun yn perthyn o fewn yr ardal ai peidio, cysylltwch â ni neu trowch at ein nodyn ar Arweiniad Allan o’r Ardal – mae ardal y gronfa’n rhan sylfaenol o’r cytundeb, ac ni fydd yn newid.

Pwy all wneud cais am gyllid?

Cymuned: gall grwpiau cymunedol a gyfansoddwyd wneud cais i’r gronfa. Gallech fod yn sefydliad sylfaenol, Cwmni Buddiant Cymdeithasol, elusen gofrestredig, grŵp chwaraeon, Cyfeillion Grŵp, Cyngor Cymuned neu Dref ac ati. Y peth pwysig yw fod gennych gyfansoddiad a chyfrif banc (neu gyfrif undeb credyd) yn enw eich sefydliad.

Busnes: rydym yn derbyn ceisiadau oddi wrth unig fasnachwyr, partneriaethau neu Gwmnïau Cyf.

Er na all cyrff statudol wneud cais am arian, rydym yn croesawu prosiectau neu weithgareddau a ddatblygwyd ac a gyflenwyd ar y cyd. Rydym yn croesawu  gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector statudol.

Ni allwn ariannu unigolion os nad ydynt yn gweithredu fel busnes unig fasnachwr.

Beth na all y gronfa ei gefnogi?

Nid ydym yn rhoi ystyriaeth i’r canlynol:

  • Gweithgareddau nad ydynt yn cael effaith uniongyrchol ar yr ardal budd
  • Ceisiadau oddi wrth gyrff yn y sector cyhoeddus, neu weithgareddau sy’n gyfrifoldeb statudol i gyrff yn y sector cyhoeddus
  • Ceisiadau oddi wrth unigolion heblaw am y rhai sy’n dymuno creu neu ddatblygu busnes, neu ymgymryd â hyfforddiant perthnasol
  • Pleidiau gwleidyddol neu ymgyrchu gwleidyddol / unrhyw brosiect neu fenter ac iddynt elfen wleidyddol neu lobïo
  • Gweithgareddau crefyddol ac iddynt fwriad i genhadu
  • Gweithgareddau sy’n torri’r gyfraith neu’n hyrwyddo ymddygiad anghyfreithlon
  • Echdynnu tanwydd ffosi
  • Unrhyw beth a all ddwyn anfri ar enw da y gronfa neu’r fferm
  • Gwariant / costau a dalwyd am weithgareddau sydd eisoes wedi eu cynnal
  • TAW y gellir cael ad-daliad ohono

Yn ogystal â chyfyngiadau cytundebol, rydym wedi mabwysiadu eithriadau egwyddorol yn seiliedig ar dystiolaeth yn y DU o niwed posibl a chanllawiau sefydledig ar ymarfer gorau, ac nid ar farn bersonol neu foesol. Caiff y penderfyniadau hyn eu gwneud gyda’r bwriad o amddiffyn iechyd cyhoeddus, lles y gymuned, a’r amgylchedd.

Nid ydym fel arfer yn ariannu’r canlynol:

  • Busnesau neu sefydliadau sy’n ennill mwy na 10% o’i refeniw o weithgareddau’n gysylltiedig â thybaco / fêpio (e.e. cynhyrchu, dosbarthu neu fanwerthu)
  • Siopau gwely haul neu salonau lliw haul (gallwn roi ystyriaeth i weithgaredd arall o fewn y busnes os nad yw’n gysylltiedig â defnydd o’r gwely haul, ond os yw’r incwm o’r defnydd o’r gwely haul yn uwch na 10% o’r incwm cyfan, mae’n annebygol y byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r cais)
  • Busnesau neu brosiectau sy’n achosi niwed sylweddol i’r amgylchedd
  • Sefydliadau neu fusnesau sy’n gweithio gyda phobl ifanc neu bobl fregus, ac nad ydynt wedi rhoi’r prosesau a’r polisïau Diogelu priodol ar waith
  • Unrhyw fenter sy’n ymelwa neu’n hyrwyddo anghyfartaledd
  • Byddwn yn rhoi ystyriaeth i geisiadau oddi wrth y canlynol, ond bydd angen ychwanegu cwestiynau pellach a chraffu ar y cais:

    · Busnesau triniaethau aesthetig neu gosmetig (e.e. Botox, triniaeth llenwi)

    · Aer-dymheru

A oes angen sicrhau arian cyfatebol?

Nac oes, nid oes angen sicrhau arian cyfatebol ond, wrth gwrs, bydd unrhyw gais sy’n cynnwys arian cyfatebol mewn sefyllfa gryfach; dylech edrych ar wahanol opsiynau, ond rydym yn eich annog i drafod hyn gyda ni pan fyddwn yn cwrdd i drafod eich cais.

A oes ariannu amlflwyddyn ar gael?

Fel cronfa, rydym yn ystyried ariannu cyfalaf neu refeniw, a gallwn roi ystyriaeth i unrhyw beth o brosiectau un-tro, prosiectau peilot, ariannu craidd, prosiectau adnewyddu ar raddfa fawr, neu ariannu amlflwyddyn. Ein nod yw deall pam bod angen yr hyn rydych yn gofyn amdano, a pha wahaniaeth a wnaiff.

Pa mor gyflym y caiff y penderfyniad ei wneud?

Cronfa Micro: cynhelir dwy rownd bob blwyddyn, a phenderfynir dyfarnu cyllid neu beidio o fewn 6 wythnos i ddyddiad cau pob rownd ymgeisio.

Cronfa Gweledigaeth hyd at £26,000: mae hwn yn parhau i fod yn gais un-cam a chaiff ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf o’r Bwrdd; fel arfer bydd y penderfyniad yn cymryd rhwng 1 a 3 mis.

Cronfa Gweledigaeth dros £26,000: proses mewn dau gam yw hon gan ddechrau gyda Datganiad o Ddiddordeb ac yna, os bydd yr ymgeisydd yn derbyn gwahoddiad, bydd ail gam i’r cais. Gan fod hyn yn gallu golygu dau gyfarfod Bwrdd, mae’r broses yn cymryd o leiaf 3–4 mis, ond mae rhai pobl yn cymryd 12 mis i ddatblygu’r ail gam. Gorau po gyntaf y byddwch yn trafod gyda ni.

Pwy sy’n gwneud y penderfyniadau, a beth sy’n digwydd os caiff cais ei wrthod?

Sut y Caiff Penderfyniadau eu Gwneud

Caiff pob penderfyniad ariannol ei wneud gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr. Mae aelodau’r Bwrdd yn bobl a chanddynt y sgiliau, yr wybodaeth, a’r mewnwelediad lleol i sicrhau bod y Gronfa’n gwasanaethu’r cymunedau mewn modd effeithiol.

Mae ein tîm o staff yma i’ch helpu. Byddant yn gwneud y canlynol:

  • Eich cynghori ar eich cais
  • Gofyn cwestiynau i sicrhau bod eich cais mor gryf â phosibl cyn iddo fynd o flaen y Bwrdd

Hyd yn oed gyda chymorth, ni ellir gwarantu y bydd pob cais yn llwyddiannus. Mae ariannu’n faes cystadleuol, ac mae’r Bwrdd yn rhoi ystyriaeth i nifer o ffactorau wrth wneud eu penderfyniadau.

 

Os Caiff Eich Cais ei Wrthod

Os yw eich cais yn aflwyddiannus:

  • Byddwch yn cael gwybod am y penderfyniad ac yn derbyn adborth
  • Gallwch ofyn i un o’n tîm o staff am eglurder neu gyngor

Os gwrthodir eich cais, ni fydd hyn yn eich rhwystro rhag ailymgeisio. Gallwch gyflwyno cais newydd am brosiect gwahanol neu hyd yn oed, ambell dro, yr un prosiect ond gyda mwy o wybodaeth. Bydd y staff yn eich cynghori ar hyn.

 

Apeliadau a Chwynion

Oherwydd bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd yn seiliedig ar nifer o ffactorau, ac ar ôl ystyried yn ofalus yr wybodaeth a ddarperir mewn ceisiadau, ni allwn ailfeddwl ynghylch penderfyniad dim ond am bod rhywun yn anghydweld ag ef. Byddai caniatáu apeliadau’n tanseilio tegwch, cysondeb, ac effeithiolrwydd y broses o gymryd penderfyniadau.

Fodd bynnag, os ydych o’r farn eich bod chi, neu eich cais, wedi cael cam, gallwch gyflwyno cwyn swyddogol. Caiff cwynion eu hadolygu’n ofalus i sicrhau bod ein prosesau’n deg a thryloyw. Ond hyd yn oed os caiff y gŵyn ei chynnal, ni newidir canlyniad y penderfyniad ariannu.

Am beth mae’r Gronfa’n edrych wrth ystyried ceisiadau?

Wrth edrych ar geisiadau, mae’r gronfa wastad wedi ystyried y canlynol, a bydd yn parhau i wneud hynny:

  • Ydy’r canlyniad yn rhywbeth sydd ag angen amdano yn ardal y gronfa (ydy e’n ateb angen neu’n ymateb i gyfle)?
  • Ydy’r ymgeisydd wedi dangos y gall gyflawni’r prosiect hwn?
  • Ai hon yw’r gronfa fwyaf addas ar gyfer y prosiect?

Os felly, rydym hefyd yn ystyried:

  • Oes yna dystiolaeth / ymgynghoriad i gefnogi’r cais?
  • Ydy’r prosiect yn dod â gwerth ychwanegol i’r gymuned?
  • Ydy’r prosiect yn hyfyw?
  • Ydy e’n gynaliadwy* ac os nad yw, beth fydd yn digwydd nesaf? (Gall *cynaliadwy olygu mewn modd ariannol, ond hefyd yn gynaliadwy’n gymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol)

Mae’r gronfa wastad wedi gwneud y canlynol, a bydd yn parhau i wneud hynny:

  • Annog ceisiadau sy’n flaengar ac uchelgeisiol
  • Codi dyheadau trwy nodi cyfleoedd, meithrin potential, ac annog agwedd hyderus
  • Cynnal digwyddiadau i arddangos yr hyn mae’r gronfa wedi’i gefnogi, gan roi cyfle i gymunedau rannu profiadau a dysgu o’u llwyddiannau a’u heriau
  • Chwilio am fentrau sy’n cynnal a gwella asedau lleol (megis pobl, arian, cyflogaeth, a seilwaith), gan rymuso pobl leol i greu newid
  • Hyrwyddo cynhwysiant a mynediad, a chwalu rhwystrau i annog pobl i gyfranogi
  • Gweithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o bobl a sefydliadau, ac ychwanegu at y ddarpariaeth statudol
  • Mentro peilota a phrofi syniadau arloesol, llawn dychymyg
  • Gwella cysylltedd a chysylltu cymunedau
  • Datblygu Pen y Cymoedd fel buddsoddwr hir-dymor yn yr ardal
  • Annog a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol

Yn gyffredinol, y themâu a’r blaenoriaethau yw:

Swyddi a’r Economi: Bydd y gronfa’n hyrwyddo a thyfu busnesau lleol, yn creu cyfleoedd am swyddi, ac yn denu menter a buddsoddiad i’r ardal gan greu swyddi diogel o safon uchel.

Twristiaeth: Bydd y gronfa’n cefnogi ceisiadau sy’n hyrwyddo, annog a chefnogi twristiaeth i ddod i’r ardal.

Yr Hinsawdd a’r Amgylchedd: Bydd y gronfa’n cefnogi cymunedau i ofalu am yr amgylchedd naturiol a’i wella, lleihau’r effaith amgylcheddol, a dod yn fwy cynaliadwy.

Cysylltiadau a Thrafnidiaeth: Bydd y gronfa’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu  dewisiadau teithio sy’n well, fforddiadwy, hygyrch, diogel a chynaliadwy, a seilwaith trafnidiaeth yn yr ardal, fel bod pobl leol yn gallu teithio o fewn eu cymuned ac ymhellach i ffwrdd.

Digidol: Bydd y gronfa’n cefnogi cysylltedd, sgiliau a chynhwysiant digidol, ac yn cefnogi ceisiadau sy’n defnyddio elfen ddigidol i gyflawni blaenoriaethau eraill. Bydd cymunedau’n cysylltu’n well, yn cael eu cynnwys, ac yn dylanwadu ar y defnydd o elfennau digidol.

Diwylliant a’r Diwydiannau Creadigol: Bydd y gronfa’n cefnogi datblygu ysbryd cymunedol, yn cynyddu gweithgareddau diwylliannol, ac yn ehangu  cyfranogiad i bawb, gwella amwynderau diwylliannol, annog ymwelwyr, a datblygu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Bydd y gronfa hefyd yn cefnogi cyfleoedd i greu a chynnal cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.

Iechyd a Lles: Bydd y gronfa’n cefnogi ceisiadau am ddarpariaethau ym maes iechyd corfforol a meddyliol, a lles, os ydynt yn hygyrch ac yn ychwanegu at ddarpariaeth statudol ond heb ei ddyblygu. Bydd y gronfa’n helpu i ddatblygu cymunedau sy’n iach ac actif, a gweithgareddau cynaliadwy sy’n arwain at newid yn ffordd o fyw y cymunedau hyn.

Gofodau / Adeiladau Cymunedol: Bydd y gronfa’n cefnogi ymdrechion i ddatblygu a chadw gofodau ac adeiladau cymunedol (dan do a thu allan).

Sgiliau, Datblygu, Hyfforddiant a Dysgu: Bydd y gronfa’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflenwi sgiliau, hyfforddiant neu ddysgu sy’n berthnasol i’r gymdeithas newidiol, gan sicrhau darpariaeth ar gyfer preswylwyr o bob cefndir, oedran a gallu.

A oes modd i mi drafod fy nghais gyda chi?

Oes, wrth gwrs – rydym yn annog pob ymgeisydd i gysylltu â thîm y staff. Gallwn roi cyngor dros y ffôn, mewn ebost, neu trwy drefnu apwyntiadau wyneb yn wyneb neu ar-lein; rydym bob amser wrth ein bodd yn clywed am eich syniadau, a rhannu ein barn a’n cefnogaeth.

Mae’r Gronfa’n annibynnol, ac ni all y Bwrdd o Gyfarwyddwyr anweithredol drafod ceisiadau’n uniongyrchol gydag ymgeiswyr. Dyna yw rôl ein tîm o staff – hwy yw eich prif gyswllt trwy gydol y broses.

Other Useful Information

Cwrdd â’r Tîm

Click Here

Gwneud cais am Gyllid

Click Here

Monitro a Gwerthuso

Click Here

Dogfennau a Lawrlwythiadau

Click Here

Ein Blaenoriaethau Ariannu

Cyn lansio Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd, gofynnwyd un cwestiwn syml i breswylwyr a chymunedau lleol, sef: “Beth allai’r Gronfa hon ei wneud i greu gwahaniaeth go iawn yn y lle hwn?”

Defnyddiwyd yr atebion i lunio ein Prosbectws – datganiad clir o weledigaeth, uchelgeisiau, a blaenoriaethau’r cymunedau. Gweledigaeth y cymunedau yw hon, nid ein gweledigaeth ni: crëwyd hi gan y bobl sy’n byw a gweithio yma, sy’n gyfarwydd â phob modfedd o’r ardal, yn deall ei chryfderau, ac yn gweld y bylchau lle mae angen cymorth.

Er ein bod yn adnewyddu’r weledigaeth hon bob pum mlynedd, nid ydym yn aros cyhyd â hynny i wrando. Rydym bob amser yn croesawu adborth,  mewnwelediad, a syniadau gan gymunedau, fel bod yr weledigaeth yn parhau i fod yn gyfredol a pherthnasol.

Mae Pen y Cymoedd wedi ymrwymo i fuddsoddiad hir-dymor mewn pobl, lleoliadau a busnesau, gan helpu ardal y gronfa i ffynnu. Dros y degawd diwethaf, rydym wedi gosod sylfaen gref. Yn ystod y deg mlynedd nesaf, byddwn yn anelu’n uwch – gan symud o newid i drawsnewid, hyrwyddo syniadau mentrus, a chreu effaith fydd yn parhau am genedlaethau i’r dyfodol.

Ein Gweledigaeth: Lle dynamig, cyffrous, bywiog i fyw a gweithio ynddo.

Ein Cenhadaeth: Buddsoddi yng ngweledigaeth y gymuned, gan ddefnyddio ein hadnoddau a’n dylanwad i gryfhau a chynnal asedau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, ac amgylcheddol yr ardal.

Mae newid ystyrlon yn cymryd amser. Dyna pam mae Pen y Cymoedd yn ffocysu ar fuddsoddiad hir-dymor, cydweithredol – gan siapio’r Cymoedd  yn ardal lewyrchus, wydn, lle gall pobl, cymunedau a busnesau ffynnu.

Gwybodaeth am Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Fferm Wynt Pen y Cymoedd yw’r fferm wynt ar-y-tir fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Wedi ei lleoli yn ne-ddwyrain Cymru, mae ganddi 76 o dwrbinau a batri wedi’i osod yn yr un lle sy’n cynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy.

Mae’r safle hefyd yn gartref i raglen bwysig i adnewyddu ardal o fawndir sy’n ymestyn dros tua 1,500 hectar. Mae’r gwaith hwn yn rhan o Gynllun Rheoli Cynefin y prosiect, a’i nod yw adfywio’r mawndir dros gyfnod o amser, gan gefnogi bioamrywiaeth a’r amgylchedd.

Mae Vattenfall – y cwmni ynni Ewropeaidd sy’n berchen ar y fferm wynt ac yn ei gweithredu – wedi ymrwymo i greu cronfa gymunedol sy’n annibynnol ac yn ffocysu ar newid positif, hir-dymor, ar gyfer y cymunedau lleol. Er bod y Gronfa’n gweithredu’n annibynnol, rydym yn cydweithio’n agos gyda Vattenfall drwy drefniant grant, ac yn mwynhau perthynas gref, gydweithredol.

Mae’r fferm wynt wedi’i lleoli ar Ystad Goed Llywodraeth Cymru, sy’n denu llu o gerddwyr, heicwyr a seiclwyr mynydd bob blwyddyn. Mae llwybrau lleol yn cynnig golygfeydd ysblennydd a mynediad rhwydd i ymwelwyr. Bydd grwpiau o wahanol ysgolion yn ymweld yn rheolaidd i ddysgu am ynni adnewyddadwy ac adfywio mawndir, gan helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o stiwardiaid amgylcheddol.

Mae’r fferm wynt hefyd yn dod â chyfleoedd am waith yn lleol. Mae tua 15 aelod o’r staff yn gweithio ar y safle, yn cynnwys hyfforddeion, gweithredwyr fferm wynt, peirianwyr, a rheolwyr warws. Mae’r rolau hyn yn darparu swyddi o safon uchel ar gyfer y gymuned leol, gan helpu i adeiladu sgiliau a phrofiad ym maes ynni adnewyddadwy. Ar draws Ewrop, mae Vattenfall yn cyflogi tua 21,000 o bobl, gan ddod ag arbenigedd byd-eang a buddsoddiad i gefnogi ynni cynaliadwy a datblygiad lleol yn y Cymoedd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Pen y Cymoedd Wind Energy Project – Vattenfall

Llun i’r dde – © Hawlfraint y Goron

Dolenni Cyflym

  • @Cael eich ysbrydoli

Er mwyn cael eich ysbrydoli, darllenwch yr astudiaethau achos a’r hanesion am y grwpiau, y busnesau a’r gweithgareddau a gefnogir gan y Gronfa Gymunedol.

Gweld ein Hastudiaethau Achos

  • @Digwyddiadau i Ddod, a’r Newyddion Diweddaraf

Daliwch lan gyda digwyddiadau diweddaraf Pen y Cymoedd CBC, a cael yr wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf!

Gweld y Diweddaraf

  • @Gwneud cais am Gymorth Ariannol

Dysgwch fwy am y Gronfa, a lawrlwytho ffurflen gais am grant. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais gorffenedig drwy’r wefan hon!

Cliciwch yma i wneud cais

Y Diweddaraf o Ben y Cymoedd

Dewch i weld beth sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda Chronfa Gymunedol Pen y Cymoedd – y newyddion diweddaraf, uchafbwyntiau’r prosiectau, a straeon o lwyddiant o wahanol rannau o Gymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Dewch i weld sut mae syniadau lleol yn creu effaith wirioneddol yn ein cymunedau.