PEN Y CYMOEDD
YMGEISIO AM ARIAN A DARLLEN YMHELLACH
Ein Cyfleoedd Cyllido
Mae’r bobl leol eu hunain wedi diffinio’r blaenoriaethau ar gyfer y Gronfa Gymunedol – gallwch weld beth ydynt ym Mhrosbectws Pen y Cymoedd. Gan y bydd y Gronfa ar gael am yr ugain mlynedd nesaf, gellir mynd ati’n awr i gefnogi gweithgareddau sydd o fudd i’r gymuned, a gallwn ni oll hefyd gynllunio a chyflenwi ar gyfer yr hir-dymor.
Dylid croesawu unrhyw un sy’n awyddus i gymryd rhan mewn unrhyw brosiect neu weithgaredd a ariennir, heblaw bod yna resymau cryf pam nad yw hynny’n bosibl (e.e. mae’r weithgaredd ar gyfer menywod, pobl ifanc, neu bobl hŷn yn unig). Dylai eich dogfen lywodraethu a pholisïau esbonio hyn yn glir. Gallwch weld ein Polisi Cyfle Cyfartal ni ein hunain yma.
Cronfa Micro
Dulliau eraill y gallwn eu defnyddio i gefnogi cymunedau
Benthyciadau
Pan fyddwn yn derbyn cais am arian o’r Gronfa Gweledigaeth oddi wrth fusnes preifat neu un sy’n cynhyrchu elw, gallwn ddewis rhoi cymorth drwy fenthyciad, grant, neu gyfuniad o fenthyciad a grant.
Y rheswm dros hyn yw y bydd buddsoddiad busnes yn arwain at elw, ac mae gan fusnes y capasiti i ad-dalu peth o hwnnw i’r gronfa; mae’n ein galluogi ni i ailgylchu cyllid i gefnogi hyd yn oed rhagor o fusnesau neu weithgareddau cymunedol.
Fel rheol, mae ein benthyciadau’n rhydd o log, a byddwn bob amser yn fodlon ystyried bwlch yn yr ad-daliadau. Os ydych chi’n fusnes sy’n cysylltu â’r gronfa, byddwn yn hapus i drafod y posibilrwydd o fenthyciad gyda chi.
Buddsoddiad Uniongyrchol
Buddsoddiad Uniongyrchol – gall Pen y Cymoedd fuddsoddi’n uniongyrchol mewn cymunedau lle bo hynny’n briodol, a gwnaethpwyd hyn yn y gorffennol trwy brynu Gwesty Afan Lodge.
Dulliau eraill o weithio
1. Calon Hearts – Gosod Diffibrilwyr
Buom yn gweithio gyda Calon Hearts i ddefnyddio dull rhagweithiol o wella mynediad at ddiffibrilwyr ar draws ardal y gronfa. Ynghyd â phartneriaid lleol a chymunedau, buom yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth, a gosodwyd 78 o ddiffibrilwyr a chanddynt fynediad cyhoeddus mewn trefi a phentrefi, gan gynnwys rhai mewn adeiladau cymunedol a busnesau lleol. Mae’r holl unedau’n hygyrch i’r cyhoedd ac wedi’u cofrestru gyda The Circuit a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
2. Arolygon Effeithiolrwydd Ynni Mewn Adeiladau Cymunedol
Mewn ymateb i’r cynnydd mewn costau ynni sy’n effeithio ar adeiladau dan ofal cymunedau, llwyddodd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd – mewn cydweithrediad ag Interlink RhCT, CVS Castell-nedd Port Talbot, y Coalfields Regeneration Trust a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf – i nodi’r angen am gymorth wedi’i dargedu ym maes effeithiolrwydd ynni. Darparodd y gronfa arolygon effeithiolrwydd ynni yn rhad ac am ddim i 40 o sefydliadau cymunedol ledled ardal Pen y Cymoedd, a chyflawnwyd hwy gan yr elusen annibynnol Severn Wye Energy Agency.
Roedd yr arolygon yn helpu sefydliadau i nodi gweithgareddau rhad ac am ddim i leihau’r defnydd o ynni ar unwaith, ynghyd â gwelliannau mwy hir-dymor oedd yn cynnig gwerth cryf ac adenillion ar fuddsoddiad.
CRONFA MICRO AR GYFER CYMUNED A BUSNES
Cynhelir dwy rownd o’r Gronfa Micro bob blwyddyn – mae un yn agor ym mis Mehefin ac yn cau ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Awst, a’r llall yn agor ym mis Rhagfyr ac yn cau ar y dydd Mercher cyntaf ym mis Chwefror.
Cysylltwch â ni trwy ebostio enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffonio 01685 878785 i drafod y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau.
Pan fydd y rowndiau ar agor, gallwch gyflwyno cais trwy glicio ar y botwm ‘Ymgeisiwch Nawr’.
Rydym yn sylweddoli bod modd gwireddu syniadau gwych trwy gyfrannu symiau cymharol fychan o arian ar yr amser iawn – ar drefniant un-tro. Mae’r Gronfa Micro yn cynnig grantiau un-tro hyd at £6,500 i gefnogi agweddau pwysig o fywyd cymunedol, ac i helpu i ddatblygu menter. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft: prynu mân offer; gwaith ar raddfa fechan; gweithgareddau, digwyddiadau a phrosiectau; datblygu busnesau a chychwyn busnesau newydd; prosiectau peilot.
Gall Grantiau Micro helpu gyda chostau cynnal digwyddiadau cymunedol, ychwanegu manylion i gwblhau cynllun ehangach, neu fod yn sbardun i gychwyn rhywbeth newydd; gallant helpu i hyrwyddo gwasanaethau neu gefnog astudiaethau dichonoldeb i ddatblygu cynlluniau mwy o faint. Mae gan grantiau uchafswm o £6,500, ond disgwyliwn y bydd sawl dyfarniad am symiau llai, ac rydym yn croesawu’r ceisiadau hynny.
Mae yna dri edefyn i’r Gronfa:
Cronfa Micro: Cymuned – ar gyfer sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, metrau cymdeithasol, cynghorau cymuned a thref, a ChRhA mewn ysgolion.
Cronfa Micro: Busnes (Newydd) – ar gyfer busnesau newydd sydd wedi bod mewn bodolaeth am lai na 6 mis.
Cronfa Micro: Busnes (Yn bodoli eisoes) – ar gyfer busnesau newydd sydd wedi bod mewn bodolaeth am dros 6 mis ac sy’n awyddus i ddatblygu ymhellach.
Er na all cyrff statudol wneud cais am grant Cronfa Micro, rydym yn croesawu prosiectau neu weithgareddau a ddatblygwyd ac a ddarparwyd ar y cyd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector statudol. Ni all y Gronfa Micro gefnogi costau parhaus, ac ni ddylech ddisgwyl gallu ymgeisio bob blwyddyn am yr un gweithgaredd.
Sut i wneud cais i’r Gronfa Micro
Bydd angen i chi gwblhau’r Ffurflen sy’n gweddu orau i’r hyn rydych yn awyddus i’w wneud. Gallwch ddechrau ar eich cais ar-lein yma: https://penycymoedd.flexigrant.com/ pan fydd y rownd ar agor.
Byddwn yn darllen eich cais yn ofalus, ac yn cysylltu â chi os bydd gennym unrhyw gwestiwn, neu bod arnom angen rhagor o wybodaeth. Caiff penderfyniadau ynghylch dyfarnu cyllid neu beidio gael eu gwneud gan y Cyfarwyddwyr Diddordeb Cymunedol – fel arfer o fewn 6 wythnos i ddyddiad cau pob rownd ymgeisio.
Cynghorir chi i gymryd eich amser wrth lunio cais i sicrhau eich bod yn cyflwyno’r achos gorau posibl. Byddwn yn craffu’n ofalus ar yr agweddau isod o’r cynnig:
A. CYMHWYSTER
Cymhwyster cyffredinol a chysylltiadau gyda nodau a themâu’r Gronfa.
B. DILYSIAD
Gwiriadau hunaniaeth a dilysiad – sef ein camau arferol i atal twyll a ddefnyddir i ddiogelu’r Gronfa. Nid gwiriadau credyd yw’r rhain – cânt eu gwneud dim ond i sicrhau mai chi yw’r person a nodir.
C. EFFAITH a CHYFLAWNI
Yn cynnwys dyfnder a graddfa newid.
Ch. DICHONADWYEDD
A ydym yn teimlo’n hyderus y byddant yn gallu cyflawni’r hyn a addewir, o ystyried eu hadnoddau a’u cynllunio.
D. GWERTH AM ARIAN
Nid dim ond ‘gwerth am arian’ – rhoddir ystyriaeth i gymesuredd a’r budd ehangach.
Dd. ARLOESI
Nid ‘newydd’ neu ‘newydd-deb’, ond ffordd wahanol o feddwl ac effaith ymestynnol.
E. CYNALIADWYEDD
Yn cynnwys nerth sefydliadol (staff a gwirfoddolwyr), agweddau amgylcheddol ac ariannol.
F. LLYWODRAETHIANT Y SEFYDLIAD
Capasiti, strwythur llywodraethiant, polisïau, yswiriant, diogelu, a’r tîm.
Ff. YMGYSYLLTIAD
Bod yn fodlon ac abl i gysylltu’n agored ac eang â phobl.
CRONFA GWELEDIGAETH
Mae’r Gronfa Gweledigaeth yn cynnig grantiau gwerth dros £6,500 (cyfalaf a/neu refeniw) i gefnogi gweithgareddau sy’n helpu i gyflawni un neu ragor o’r blaenoriaethau a nodir ym Mhrosbectws y Gronfa. Gall busnesau newydd a rhai sy’n datblygu, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol, gyflwyno cais. Er nad yw cyrff yn y sector cyhoeddus yn gymwys, rydym yn croesawu gweithio mewn partneriaeth.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut mae eu cais yn cyd-fynd â’r isod:
- yn dangos gweledigaeth, yn fentrus ac yn uchelgeisiol – ychydig allan o’r cyffredin
- yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gydag eraill i gyflawni mwy sydd o fudd gwirioneddol i bobl a chymunedau ac yn cefnogi adfywiad (os mai busnes yw’r ymgeisydd, disgwylir y bydd creu swyddi a datblygu sgiliau i fod o fudd i bobl yn ardal y Gronfa yn elfen bwysig yn y cais).
- yn gynaliadwy yn yr hir-dymor – yn gwneud y gorau o werth a buddion lleol
- yn cynrychioli gwerth am arian
Efallai eich bod wedi derbyn grant Cronfa Micro i’ch helpu i gychwyn ar y gwaith sydd dan sylw, a’ch bod bellach yn dymuno mynd gam ymhellach gyda grant Cronfa Gweledigaeth. Os mai dyna yw’r sefyllfa, bydd angen i chi fod wedi cwblhau’r prosiect cychwynnol, a gallu dangos y deilliannau a’r cyflawniadau cyn y gellir ystyried cais pellach.
Syniadau da ar gyfer drafftio eich cynnig i’r Gronfa Gweledigaeth:
- Rhowch enw cofiadwy i’ch prosiect / gweithgaredd! Mae’n swnio’n ddibwys, ond mae’n gwneud gwahaniaeth mawr.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio eich cynllun mor glir a chryno ag y bo modd. Gofynnwch i berson nad oes ganddynt gysylltiad â’r cais i edrych drosto a rhoi adborth.
- Dywedwch yn union wrthym pwy fydd yn cael budd, a pham – pa wahaniaeth a wnaiff i bobl a chymunedau, yr economi leol, a’r amgylchedd?
- Esboniwch yn glir sut mae eich cais am grant yn berthnasol i’ch nodau a’ch cynllun.
- Darparu dyfynbrisiau realistig rydych wedi ymchwilio iddynt.
- Esboniwch sut y bydd y prosiect neu’r gweithgaredd yn gynaliadwy yn yr hir-dymor.
Y Broses Ymgeisio
Mae yna wahanol brosesau ymgeisio i’w cael, yn dibynnu ar faint o arian rydych yn gofyn amdano.
Rhwng £6,501 a £26,000
Proses ymgeisio mewn un cam ar-lein yw hon.
Rhwng £26,001 a £149,999
Proses mewn dau gam yw hon. Y cam cyntaf yw Datganiad o Ddiddordeb (EOI), a gaiff ei adolygu gan y Bwrdd. Os ystyrir fod modd i’r Datganiad dderbyn cefnogaeth, byddwch yn derbyn gwahoddiad i symud ymlaen i gais Cam 2.
Noder, os gwelwch yn dda, nad yw gwahoddiad i Gam 2 yn gwarantu y caiff eich cais ei dderbyn; yn hytrach, mae’n dangos bod gan y Bwrdd ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth fwy manwl am eich cais.
Dros £150,000
Mae hon, fel yr uchod, yn broses mewn dau gam, ond hefyd mae’n bosibl y gofynnir i chi gwrdd â Bwrdd y Cyfarwyddwyr a chyflwyno eich cais iddynt hwy.
Cyn i chi gyflwyno unrhyw gais Cronfa Gweledigaeth neu Ddatganiad o Ddiddordeb, rhaid i chi gysylltu â ni i drafod eich cynlluniau. Os yn briodol, byddwn wedyn yn anfon dolen i chi allu ymgeisio ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi ein ffonio ar 01685 878785 neu ebostio: enquiries@penycymoeddcic.cymru
BETH NA ALL Y GRONFA GYMUNEDOL EI GEFNOGI?
- Gweithgareddau nad ydynt yn cyflenwi buddion clir i gymunedau o fewn Ardal Budd y Gronfa
- Ceisiadau am weithgareddau neu brosiectau sy’n eithrio grwpiau penodol o bobl, a hynny heb resymau cwbl glir y gellid eu hamddiffyn yn gyfreithiol
- Ceisiadau oddi wrth gyrff yn y sector cyhoeddus
- Gweithgareddau sy’n gyfrifoldeb statudol i gyrff yn y sector cyhoeddus
- Ceisiadau oddi wrth unigolion heblaw am y rhai sy’n dymuno cychwyn neu ddatblygu busnes
- Ceisiadau sy’n ymwneud yn unig â materion gwleidyddol neu grefyddol
- Gwariant / costau a dalwyd mewn perthynas â gweithgareddau sydd eisoes wedi digwydd
- TAW y gellid cael ad-daliad ohono
- Prosiectau sy’n hyrwyddo, darparu, datblygu, gweithredu neu gefnogi mewn dull arall unrhyw gynllun ynni na ellir ei adnewyddu, neu adnodd perthnasol.
Mae ein Canllaw Moesgol yn cynnwys rhagor o wybodaeth ynghylch beth na all y gronfa ei gefnogi. Gallwch ei ddarllen yma: Cyllido Moesegol.
Os ydych yn ansicr p’un ai a yw eich syniadau am brosiect yn gymwys i dderbyn cymorth, cysylltwch â’n tîm trwy ebost: enquiries@penycymoeddcic.cymru
neu ffonio 01685 878785.
Canllawiau Defnyddiol
1. Adeiladu Gwefannau ac Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)
Cliciwch i Lawrlwytho
2. Llety Twristiaeth ac Ymwelwyr Atyniadau
Cliciwch i Lawrlwytho
3. Beth yw Ymgynghori â'r Gymuned
Cliciwch i Lawrlwytho
4. Meysydd Chwarae Cymunedol
Cliciwch i Lawrlwytho
5. Eitemau Traul a Gwerthadwy
Cliciwch i Lawrlwytho
6. Mannau addoli
Cliciwch i Lawrlwytho
7. Parhad Prosiectau
Cliciwch i Lawrlwytho
8. Datganiad Buddsoddi Moesegol a Gwneud Grantiau
Cliciwch i Lawrlwytho
9. Llwybr i'r Bwrdd
Cliciwch i Lawrlwytho
10. Clybiau neu Grwpiau Chwaraeon
Cliciwch i Lawrlwytho
11. Cyflog Byw Real
Cliciwch i Lawrlwytho
12. Mynd Allan i Dendro
Cliciwch i Lawrlwytho
13. Prosiectau mewn Ysgolion
Cliciwch i Lawrlwytho
14. Outside Fund Area Guidance Note
Cliciwch i Lawrlwytho
15. Canllawiau Cymorth Ariannol – Grantiau, Benthyciadau a Buddsoddiad
Cliciwch i Lawrlwytho
16. Defnyddio offer deallusrwydd artiffisial (AI) yn eich cais
Cliciwch i Lawrlwytho
17. Templed ac Arweiniad Cynllun Busnes
Cliciwch i Lawrlwytho
18. Cyfrif eich sefydliads
Cliciwch i Lawrlwytho
19. Prynu Nwyddau a Gwasanaethau
Cliciwch i Lawrlwytho
20. Hyrwyddo Newid Ymddygiad
Cliciwch i Lawrlwytho
21. Canllawiau i Ymgeiswyr Busnesau
Cliciwch i Lawrlwytho
22. Teithiau Hamdden a Digwyddiadau Untro
Cliciwch i Lawrlwytho
23. Edrych ar ôl y amgylchedd
Cliciwch i Lawrlwytho
24. Polisïau a Gweithdrefnau Diogelu
Cliciwch i Lawrlwytho
Dolenni Cyflym
- @Cael eich ysbrydoli
Er mwyn cael eich ysbrydoli, darllenwch yr astudiaethau achos a’r hanesion am y grwpiau, y busnesau a’r gweithgareddau a gefnogir gan y Gronfa Gymunedol.
Gweld ein Hastudiaethau Achos
- @Digwyddiadau i Ddod, a’r Newyddion Diweddaraf
Daliwch lan gyda digwyddiadau diweddaraf Pen y Cymoedd CBC, a cael yr wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf!
Gweld y Diweddaraf
- @Gwneud cais am Gymorth Ariannol
Dysgwch fwy am y Gronfa, a lawrlwytho ffurflen gais am grant. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais gorffenedig drwy’r wefan hon!


