Gwelliannau Mawr i Barc Chwarae Bryn Golwg, Clyne!

Mae Pen y Cymoedd yn falch o gefnogi Cyngor Cymuned Clyne a Melincourt gyda chyfraniad o £25,895 tuag at uwchraddio Parc Chwarae Bryn Golwg, gan adeiladu ar welliannau blaenorol a ariennir drwy’n Micro Fund yn 2019.

Nod y prosiect yw creu man awyr agored diogel, cynhwysol ac ymgysylltiol i blant, pobl ifanc a theuluoedd o bob oedran a gallu o fewn y gymuned.

Yn dilyn arolwg tŷ-i-dŷ a digwyddiadau ymgynghori cymunedol, mae prif elfennau’r gwelliannau’n cynnwys:
• Uned chwarae aml-swyddogaeth newydd
• Rowndabout powlen droelli
• Siglen cynhwysol a siglen wyneb-yn-wyneb
• Pen gôl aml-chwaraeon

Mae’r gwelliannau hyn yn adlewyrchu dymuniad y gymuned i weld mwy o amrywiaeth a chynhwysiant mewn darpariaeth chwarae leol.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Gyngor Cymuned Clyne a Melincourt, gyda chefnogaeth gan Uned Datblygu a Chyllido Prosiectau Castell-nedd Port Talbot.

“Rydyn ni’n falch o gefnogi uwchraddiad Parc Chwarae Bryn Golwg. Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ymgysylltiad cymunedol cryf ac ymrwymiad clir i lesiant, cynhwysiant a chwarae awyr agored — blaenoriaethau allweddol yn ein Rhaglen Gymunedol.”
– Shayla, Swyddog Cymorth Cronfa – Cymuned

“Rydyn ni’n hynod gyffrous i weld y gymuned yn elwa ar ardal chwarae newydd mor groesawgar yma ym Mharc Chwarae Bryn Golwg, Clyne. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r rhai a wnaeth y penderfyniadau yn y Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd, Cronfa Gymunedol Ffynnon Oer, a’r grant Prosiectau Bach Cymunedol NPTCBC am roi’r cyfle i ni gyflawni’r prosiect hwn. Bydd yr ardal chwarae newydd yn galluogi plant a phobl ifanc o bob oed a gallu i chwarae gyda’i gilydd mewn amgylchedd diogel a chyffrous.”
– Y Cynghorydd Lucy Hadley, Cyngor Cymuned Clyne a Melincourt

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.