GRANTON STREET RHONDDA ROAD

THEATR AVANT

£5,000 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017

Mae Avant Cymru’n gwmni a sefydlwyd yn ddiweddar yng Nghwm Rhondda, gan ddod â chynyrchiadau a chyfleoedd theatr perthnasol a chyffrous i’r ardal. Mae’r cwmni’n aelod o gymuned Theatr Genedlaethol Cymru ac yn cynnig celf, dawns, drama a cherddoriaeth mewn amrywiaeth o gynyrchiadau, gweithdai a dosbarthiadau. Nod y prosiect hwn oedd bod yn sbardun i’w prosiect actifiaeth a fyddai’n gofyn i gynulleidfaoedd presennol ac yn y dyfodol ymwneud â materion lleol a fyddai’n cael eu trin mewn sioeau theatr, eu rhannu ar-lein a’u datrys gan y gymuned leol. Byddai Avant yn cydweithio’n agos â theatrau RhCT ar y prosiect hwn, gan ddefnyddio eu harbenigedd a chyfleusterau prif lwyfan Parc a Dare. Roedd y cynnig hwn yn ddull unigryw a chreadigol o ennyn diddordeb pobl leol o bob oedran mewn trafodaethau am bob math o broblemau sy’n wynebu eu cymunedau, gan greu cyfleoedd iddynt rannu eu pryderon.

“Roedd Rhondda Road yn sioe fisol a aeth i’r afael â materion lleol, gan greu llwyfan i drafod y pynciau hyn ar-lein ac yn fyw ar ôl pob sioe. Daeth y cynhyrchiad â chenedlaethau gwahanol ynghyd gan bontio bwlch oedran, sef amcan allweddol yr oedd y bobl ifainc eisiau i ni ei daclo. Yn sgil ymgynghori â’r cyhoedd, cynhaliwyd y sioe am 4pm fel yr oedd yn hygyrch i’r rhai yn eu harddegau ar ôl yr ysgol ac roedd ar gael cyn iddo fynd yn dywyll hefyd ar gyfer pobl dros 50 oed a ofynnodd am gynhyrchiad prynhawn. Daeth y farn gychwynnol ar ffurf pobl leol yn newid enw’r cynhyrchiad o Granton Street i Rhondda Road, enw y teimlai pobl leol ei fod yn fwy perthnasol iddynt. Dylanwadwyd ar bob pennod gan y gymuned gyda’r cast o’r gymuned, cynulleidfaoedd a chynulleidfaoedd digidol yn cynnig themâu ar gyfer pob sioe.

Rhoddwyd llais i’r materion a godwyd fel rhan o bob pennod. Wynebodd y cymeriadau fwlio, digartrefedd, caethineb, trais yn y cartref a phroblemau iechyd meddwl. Trafododd y cymeriadau sut y daethant o hyd i gymorth a sut roedd y materion hyn wedi effeithiol ar eu bywydau. Gwahoddwyd grwpiau i ddod i ddosbarthu taflenni fel bod cyfeiriadau uniongyrchol at fudiadau a allai gynnig cymorth. Cymerodd pobl ifainc ran ym mhob pennod fel perfformwyr ac fel aelodau’r gynulleidfa. Ymdriniwyd â’u hanghenion trwy fynd i’r afael â phynciau a oedd yn berthnasol iddynt, fel bwlio.

Siapiodd cyswllt â’r unigolion a’r mudiadau hyn y themâu yr ymdriniwyd â hwy gan y cymeriadau dros y pedwar cynhyrchiad. Cynhaliwyd y pedair sioe yn theatr Parc a Dare, gan gynnig rhywbeth newydd ar gyfer eu rhaglen yn seiliedig ar alw trwy ymgynghori â’r cyhoedd a wnaed gan y lleoliad ac Avant. Cyflogwyd actorion lleol o RhCT, cyflogwyd 2 fideograffydd o’r dalgylch, cyflogwyd cynhyrchydd lleol.” – Rachel (Avant Cymru)

https://www.avant.cymru/rhondda-road

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/theres-new-soap-opera-life-13663801

LOCATION OF ACTIVITY: TREORCI

VALLEY: RHONDDA

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.