GRANT Y GRONFA MICRO £5000 I Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

Ymgeisiodd Cyfeillion Ysgol Gyfun Cwm Rhondda (yr ysgol uwchradd Gymraeg sy’n gwasanaethu Cymoedd y Rhondda) am gymorth gyda’r gost o gynnal perfformiad Cymraeg o Beauty and the Beast ym mhrif Theatr y Parc a’r Dâr ar ôl prynu hawliau perfformio Beauty and the Beast a threulio 3 mis dwys yn cyfieithu’r sioe gyfan – gan gynnwys y caneuon a’r sgoriau

Roeddent yn gweithio gyda thiwtoriaid Cymraeg i Oedolion lleol ac yn bwriadu hyrwyddo hyn i’r holl siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a chefnogwyr yr ysgol. Roeddent yn gobeithio, drwy roi llwyfan i sioeau Cymraeg, y byddai myfyrwyr yn magu hyder wrth berfformio yn eu hiaith gyntaf, y byddai myfyrwyr yn ymuno â grwpiau presennol ac y byddai’r grwpiau hynny’n ymgorffori ac yn cofleidio’r iaith Gymraeg.

“Mae cael grant i’n helpu ni i dalu am gostau’r prosiect hwn a chaniatáu i ni gynnal perfformiad Cymraeg ym mhrif Theatr y Parc a’r Dâr wedi gwneud gwahaniaeth mawr – mwynhaodd y disgyblion y profiad mas draw, gyda’r cyfle i berfformio’r sioe fwyaf proffesiynol iddynt ei gwneud erioed, a’r cyfan wrth gymdeithasu yn y Gymraeg y tu hwnt i oriau dysgu.

Roedd cyfle i’r cyhoedd wylio perfformiad yn yr iaith Gymraeg ac roedd ein noson olaf wedi gwerthu allan. Roedd y prosiect o fudd mawr i ddisgyblion ein hysgol oherwydd nad ydynt erioed wedi gwneud sioe gyda’r holl set arbennig, y gwisgoedd, y propiau ac ati.  Roedd y cyhoedd hefyd wedi elwa a chael cyfle i wylio perfformiad byw o sioe gerdd Gymraeg, sy’n rhywbeth prin iawn yn ein hardal.

 

Mae’r ffaith bod yr holl docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer yr ail noson – yn dangos bod y Gymraeg yn fyw yng Nghwm Rhondda.  Roedd yr holl waith caled yn yr ymarferion hefyd wedi dwyn ffrwyth ac roedd y disgyblion wrth eu boddau yn perfformio ar lwyfan hanesyddol gyda’r holl bethau ychwanegol o’u hamgylch.” –  Seren-Haf (Ysgol Gyfun Cwm Rhondda)

Sut wnaeth y prosiect hwn fodloni blaenoriaethau’r gronfa:

Hyrwyddo diwylliant Cymreig/annog cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol/calendr o ddigwyddiadau, wedi’u hysbysebu’n dda ar draws yr ardal a’r flwyddyn ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.