Glyncorrwg RFC: Cryfhau Canolfan Gymunedol

Mai 27, 2026

Gyda chefnogaeth grant Cronfa Feicro Pen y Cymoedd gwerth £6,444.30, mae Glyncorrwg RFC wedi trawsnewid ei glwb a’i ofod awyr agored, gan helpu’r clwb i gryfhau ei rôl fel canolfan gymunedol hanfodol yng Nghwm Afan Uchaf.

Yn dilyn cau unig leoliad cymdeithasol arall y pentref, mae’r clwb wedi dod yn ofod hyd yn oed yn bwysicach i bobl leol, gan gynnal rygbi, pêl-droed, dartiau, grwpiau crefft, digwyddiadau cymunedol a gweithgareddau cymdeithasol.

Defnyddiwyd y cyllid i foderneiddio ardal bar y clwb gyda seddi a dodrefn newydd, tra cafodd yr ardd gwrw awyr agored ei hailddatblygu gyda meinciau newydd, gwaith tirlunio a gwelliannau sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Crëwyd bocsys natur a mannau gwyrdd hefyd i annog bioamrywiaeth.

Mae’r gwelliannau wedi cael effaith sylweddol, gan greu amgylchedd mwy croesawgar i aelodau, ymwelwyr a grwpiau cymunedol. Mae’r ardal awyr agored wedi bod yn arbennig o boblogaidd yn ystod tywydd da, gan helpu’r clwb i gynnal mwy o ddigwyddiadau awyr agored a chynyddu nifer yr ymwelwyr a’r incwm.

Mae llwyddiant y prosiect hefyd wedi rhoi hyder i’r clwb barhau i gynllunio gwelliannau pellach, gan gefnogi ei gynaliadwyedd hirdymor fel cyfleuster cymunedol pwysig ar gyfer Cwm Afan.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.