Dyfarnu Cyllid i Archwilio’r Posibilrwydd o Gael Cae 3G yn Resolfen!

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch o gefnogi Cyngor Cymuned Resolfen gyda chyllid o £15,979.80 ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i archwilio’r posibilrwydd o drawsnewid MUGA a chwrt tennis â llifoleuadau nad ydynt yn cael eu defnyddio’n llawn yn gae hyfforddi synthetig 3G o’r radd flaenaf.

Bydd y cyllid hwn yn eu cefnogi i gynnal gwaith ymchwilio a chynllunio hanfodol i ddeall a yw cae 3G yn opsiwn hyfyw a chynaliadwy i Resolfen.

Yn y cyfnod cynnar hwn, mae’r Cyngor yn canolbwyntio ar gasglu cymaint o fewnbwn lleol â phosibl. Mae adborth cychwynnol gan drigolion a grwpiau wedi bod yn hynod gadarnhaol — ond mae’r Cyngor Cymuned eisiau clywed mwy o leisiau a sicrhau bod y prosiect yn diwallu anghenion y gymuned yn wirioneddol cyn symud ymlaen.

Bydd y cyllid dichonoldeb hwn yn galluogi Cyngor Cymuned Resolfen i:

  • Cynnal ymchwiliadau safle ac asesiadau draenio
  • Deall gofynion cynllunio ac amgylcheddol
  • Ymgysylltu’n ehangach â’r gymuned i lunio’r weledigaeth
  • Asesu fforddiadwyedd a chynaliadwyedd hirdymor y cyfleuster

“Mae Cyngor Cymuned Resolfen wrth ei fodd o fod wedi llwyddo yn ei gais am gyllid gan Ben y Cymoedd i’n galluogi i gynnal astudiaeth ddichonoldeb o ran cael cae hyfforddi synthetig 3G posibl. Bydd hyn yn hygyrch ac yn fuddiol i’r gymuned gyfan gan helpu i wella ffitrwydd ac iechyd meddwl” – Cyngor Cymuned Resolfen

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.