Dwy flynedd yn Rhwydwaith Cyllidwyr Agored a Hyderus
Dwy flynedd yn ôl, ymunasom â’r Rhwydwaith Cyllidwyr Agored a Hyderus, gan ymrwymo i set o egwyddorion sydd wedi’u cynllunio i wneud perthnasoedd cyllido yn fwy agored, ymatebol a hyderus.
Mae’r egwyddorion hynny’n parhau i siapio sut rydym yn gweithio:
- Peidio â gwastraffu amser
- Gofyn cwestiynau perthnasol
- Derbyn risg
- Gweithredu gyda brys
- Bod yn agored ac yn hyblyg
- Cyfathrebu â phwrpas
- Bod yn gymesur
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n fewnol i sicrhau bod y ymrwymiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu nid yn unig yn yr hyn a ddywedwn, ond yn y ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau. Fel rhan o hyn, cynhaliodd Bwrdd a staff PyC adolygiad o’n parodrwydd i gymryd risg mewn grantiau gan ddefnyddio offeryn IVAR Risk Appetite. Roedd hyn yn ein helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin ac eglur o sut rydym yn ymdrin â gwahanol fathau o risg — a lle rydym yn teimlo’n gyfforddus i gymryd mwy neu lai o risg wrth geisio cael effaith.
Mae’r gwaith hwn wedi arwain at Ddatganiad Risg newydd, sy’n nodi ein dull o weithredu ar draws risg ariannol, risg enw da, llywodraethu, diogelu, arloesi, a chanlyniadau.
Yn gryno:
- Mae gennym awydd cymharol uchel am risg ariannol ac arloesol
- Awydd cymedrol am risg enw da a chanlyniadau
- Awydd uchel am risg llywodraethu a gweithredol, yn enwedig lle mae potensial cryf a pharodrwydd i ddysgu
- Awydd isel iawn am risg diogelu, gyda disgwyliadau clir am arferion cadarn
Wrth wraidd hyn mae cred syml: mae newid ystyrlon yn aml yn cynnwys ansicrwydd, ac mae dysgu — yn enwedig o bethau nad ydynt yn mynd yn ôl y cynllun — yn hanfodol i gynnydd.
Gobeithiwn fod hyn yn rhoi eglurder a hyder i ymgeiswyr, ac yn annog dulliau beiddgar, meddylgar ac arloesol yn y gwaith rydym yn ei gefnogi.
Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.