DIWEDDARIAD PROSIECT

RHA – Cysylltu
Yn ystod y don gyntaf o COVID-19 yn 2020 cafodd ein haelodau cymunedol bregus a oedd yn gwarchod eu taro galetaf gan unigrwydd neu ddim yn gallu cysylltu â theulu a ffrindiau. Gyda chymaint yn gorfod cau eu drysau i ymwelwyr am gyfnod amhenodol, roedd yn golygu fel eu bod yn cael eu gadael ar wahân ac yn methu gweld eu hanwyliaid. Ar adeg pan oedd cyswllt yn gyfyngedig i sicrhau ein bod i gyd yn aros yn ddiogel yna aeth RHA ati i weithredu i gefnogi eu tenantiaid a chreu eu prosiect digidol Get Connected fel y gallent gadw mewn cysylltiad ag eraill a dod yn hyderus ar-lein.
Cefnogodd Pen y Cymoedd RHA gyda grant o £10,800 tuag at eu costau prosiect llawn fel y gallent gefnogi eu tenantiaid ar draws Rhondda Cynon Taf, i gael mynediad at dabledi digidol,cynnig cymorth a dysgu sgiliau ar-lein i’w helpuisaethu ar-lein a helpu i fynd i’r afael ag unigedd. Treuliodd RHA amser yn dangos i’w tenantiaid sut i ddefnyddio opsiynau digidol i gysylltu â theulu a ffrindiau, ac roedd un ohonynt yn gwneud hyn gyda theulu o Canada aoedd, fel y gallwch ddychmygu, yn dod â nhw i gyd i ddagrau llawen. Gyda’r prosiect hwn yn rhedeg am 18 mis, mae’r RHA yn sicrhau y gall tenantiaid barhau i fod mewn cysylltiad pan fyddwn yn cael cais iaros arwahân eto ar yr adeg dyngedfennol hon.
Mae un tenant o Tynewydd wedi bod ynhunanynysu ac nid yw wedi gweld eu hanwyliaid ers peth amser . Roeddent wrth eu bodd pan roddwyd ytabled ir iddynt, gyda RHA yn eu cefnogi’n ddiogel i wneud eu galwad WhatsApp gyntaf i’w mab yn Abertawe. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, roeddent yn ddigon hyderus i wneud eu galwad fideo annibynnolgyntaf i’r tîm yn yr RHA i ddweud wrthynt faint yr oedd yn ei olygu iddynt. Ers derbyn y tabled mae’r tenant hwn wedi aros mewn cysylltiad â’i deulu a oedd mor hanfodol bwysig adeg y Nadolig. Hefyd, maen nhw’n defnyddio opsiynau ar-lein i fwynhau eu hamser personol eu hunain fel defnyddio YouTube i weld eu hoff ffilm – How Green Is My Valley.
https://www.rhawales.com/community-projects/

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.