CYMDEITHAS RANDIROEDD GLYN-NEDD A’R CYLCH

GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £4998

 “Fe adeiladom Academi Randiroedd i ddeiliaid plotiau ei defnyddio i storio cyfarpar ond hefyd ar gyfer y gymuned ehangach gan gynnwys dosbarthiadau a gweithdai ysgolion a Chanolfan Hyfforddiant Glyn-nedd. Mae fframwaith yr adeilad bellach wedi’i gwblhau, rydym wedi defnyddio’r adeilad ar gyfer cyfarfodydd partneriaeth ac mae’r gwirfoddolwyr lleol wedi defnyddio’r adeilad i wneud basgedi crog ar gyfer y gymuned.

 Nid oedd y broses yn ddiffwdan oherwydd problemau gyda’r tywydd a’r adran gynllunio a arweiniodd at oedi wrth gwblhau. O’r diwedd, fodd bynnag, mae gennym adeilad sydd wedi ei gwblhau’n brydferth gyda saernïaeth o safon dda ac mae’r digwyddiadau cyntaf wedi bod yn gadarnhaol iawn.

 Erbyn hyn rydym yn datblygu amserlen a chynllun gydag ysgolion yr ardal i gynnal gweithgareddau celf a garddio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-20. Mae’r prosiect wrthi’n cymryd ei gamau cyntaf, er hynny mae llawer o ddigwyddiadau gwahanol eisoes wedi eu cynnal ar y cyd gyda Chanolfan Hyfforddiant Glyn-nedd, ysgolion a deiliaid rhandiroedd, a gobeithiwn mai dyma dim ond y dechrau i fwy o grwpiau cymunedol fod ar eu hennill gyda’r Academi Randiroedd.” – Ian Rhys Williams

 Defnyddiwyd y grant o £4998 gan Gronfa Grantiau Bychain Pen y Cymoedd ar gyfer y camau cynllunio cychwynnol ac adroddiadau peirianyddion adeileddol. Dyma gam hanfodol yr oedd angen cymorth ar y grŵp i’w gyllido cyn iddynt fedru symud ymlaen at gyflwyno ceisiadau llwyddiannus am £54,000 gan gyllidwyr eraill sy’n gwasanaethu Cwm Nedd. Roeddem yn falch o gefnogi’r cam cychwynnol hwn i agor y drws i gyllid pellach.

 Roedd y Gymdeithas wedi bod wrthi’n datblygu ac yn cynllunio’r cynnig hwn ers tro, gan ymgynghori â sefydliadau lleol a’r gymuned ehangach. Mae’n cysylltu’n dda â phrosiect tyfu cymunedol ehangach Canolfan Hyfforddiant Glyn-nedd a bydd y cyfleuster a safle hwn yn gyrchfan allweddol ar gyfer gweithgareddau a dysgu. Dymunwn lwyddiant parhaus iddynt.

Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa:

Mwy o fywyd awyr agored / adeiladau a lleoedd sy’n addas i’r diben / rhwydwaith cynaliadwy o adeiladau cymunedol a ddefnyddir yn helaeth

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.