Cymdeithas Gymunedol Gilgal – Grant Cronfa Micro – £2,098

Ychydig llai na blwyddyn yn ôl fe wnaethom ddyfarnu Cronfa Ficro i glwb Coffi a Brecwast Gilgal. Nhw oedd y sefydliad cyntaf yng Nghwm Afan Uchaf i sefydlu Banc Bwyd a phan ddechreuodd cyfyngiadau’r pandemig godi, roeddent yn cydnabod bod angen rhywle diogel ar bobl yn y gymuned i ddod i gael sgwrs a dod i arfer â bod gyda phobl eraill eto a rhoddodd hyn ynghyd ag argyfwng costau byw y syniad iddynt ddechrau clwb coffi a brecwast fforddiadwy.

Yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr , mae’r Clwb Coffi a Brecwast wythnosol yn darparu man cymdeithasol cynnes a chyfeillgar i drigolion lleol. Mae ar sail rhodd fel nad yw arian yn rhwystr i’r rhai sy’n mynychu.

Mae’r Clwb Coffi yn rhedeg 51 wythnos y flwyddyn (dim ond cymryd hoe ar wythnos Nadolig) ac roedd eisoes yn denu hyd at 50 o drigolion lleol (dynion yn bennaf) bob wythnos. Mae ganddynt 6 gwirfoddolwr yn rhedeg y clwb bob dydd Iau ac maent wedi ymrwymo i barhau â hyn fel ag y mae:

  • Yn lleihau unigrwydd yn eu cymuned (yn enwedig ymhlith dynion hŷn)
  • Mae’n caniatáu i fynychwyr gyfarfod â’r rhai sy’n mynychu a chwrdd â mynychwyr newydd yn rheolaidd, gan gynyddu cyfleoedd cymdeithasol.
  • Yn darparu prydau fforddiadwy

“Mae’r rhai sy’n mynychu’n mwynhau’r cwmni, yn dychwelyd yn rheolaidd ac mae yna geisiadau cyson am fwy o gyfleoedd fel hyn. Mae gennym grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr a rhoddion

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.