PEN Y CYMOEDD
YN CYDNABOD EICH DYFARNIAD
Cydnabod eich Dyfarniad
Rydym yn falch iawn o gefnogi eich prosiect a’ch syniadau, gan ddefnyddio ein cyllid i wneud Ardal Budd Pen y Cymoedd yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi!
Gofynnwn i chi gyhoeddi eich grant mewn modd cyhoeddus, gan ddiolch i Ben y Cymoedd a chwmni Vattenfall am eu cefnogaeth fel bod y gymuned yn gwybod sut mae’r gronfa’n cael ei gwario, a gall pobl gael eu hysbrydoli i ystyried gwneud cais am gyllid ar gyfer eu prosiect hwy.
Sut i ddefnyddio’r Gymraeg i hysbysebu llwyddiant eich cais
Os ydych yn cynhyrchu deunyddiau, dylent fod yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf; os oes arnoch angen help gyda hyn, mae adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim, e.e. https://businesswales.gov.wales/heloblod/
Os ydych yn cyhoeddi dyfarniad ar y cyfryngau cymdeithasol, dylid hefyd ei gynhyrchu fel 2 bostiad ar wahân, gyda’r Gymraeg yn gyntaf.
Dywedwch wrth Bobl am eich Dyfarniad drwy Gyfrwng y Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym yn eich annog i ddefnyddio sianeli’r cyfryngau cymdeithasol megis Facebook ac Instagram i hysbysebu eich grant a’ch prosiect / busnes gan eu bod yn ffordd wych o gysylltu ag amrywiaeth eang o bobl.
Byddem yn hoffi i chi wneud y canlynol:
1. Rhannu eich dyfarniad ar y cyfryngau cymdeithasol, gan sicrhau eich bod yn tagio Tudalen Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.
Gofynnwn i chi ddefnyddio’r isod pan yn ceisio ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol:
Facebook: @Penycymoedd
Instagram: @PyCCommunityFund
Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i rannu newyddion, lluniau a fideos o’ch prosiect gyda ni drwy gydol cyfnod eich grant.
Anfonwch eich dyfyniadau, straeon, lluniau a fideos atom fel bod modd i ni eu defnyddio ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol; dylech hefyd gadarnhau eich caniatâd i ni rannu’r delweddau.
2. Dilynwch Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd ar y cyfryngau cymdeithasol: rydym ar Facebook (@Penycymoedd) ac Instagram (@PyCCommunityFund).
Arddangos ein posteri, baneri ac ati
Mae yna nifer o ddulliau gwahanol y gallech eu defnyddio i dynnu sylw at y cyllid a dderbyniwyd gennych o Ben y Cymoedd; dyma beth a ddisgwyliwn pan fyddwch yn hysbysebu eich grant:
Arddangos baneri, posteri a sticeri
Rhaid i’r deunydd printiedig gael ei arddangos yn glir – h.y. ni ddylid ei orchuddio â phoster neu daflen arall. Rhaid ei arddangos am y cyfnod a nodir, fel arfer am 12 mis neu dros cyfnod eich prosiect – mae hyn yn hanfodol. Mae croeso i chi ei gadw’n hirach na’r cyfnod a drafodwyd, ond ni ddylech dynnu’r deunydd i lawr yn ystod y cyfnod hwn. Unwaith y bydd y cyfnod wedi dod i ben byddwn yn cysylltu â chi a threfnu i gasglu’r faner, y poster caled ac ati. Os caiff poster neu sticer ei ddifrodi tra bydd yn eich meddiant chi, dylech adael i ni wybod.
Defnyddio’n logo ni a logo Vattenfall
Os ydych yn defnyddio’r logos ar eich dyluniad chi, ni ddylech wneud y canlynol:
-Ystumio’r logos. Gallwch wneud y logos yn fwy neu’n llai, ond peidiwch â newid eu hedrychiad – gweler enghraifft yma.
-Newid lliwiau’r logos. Mae lliwiau’r logos yn rhan o frand Pen y Cymoedd a brand Vattenfall, ac ni ddylid newid y lliwiau o gwbl.
-Newid cefnlen y ddelwedd – dylai’r gefnlen fod yn wyn er mwyn i’r logo ymddangos yn fwy gweladwy.
Mae gennym bosteri, baneri dros dro, ac arwyddion parhaol y byddwn efallai’n gofyn i chi eu harddangos, neu gallwch wneud cais am un yma.
Lawrlwythwch ein Logo Pen y Cymoedd yma
Lawrlwythwch Logo Vattenfall yma
Dyma rai syniadau am sut i hysbysebu ein grantiau
Dolenni Cyflym
- @Cael eich ysbrydoli
Er mwyn cael eich ysbrydoli, darllenwch yr astudiaethau achos a’r hanesion am y grwpiau, y busnesau a’r gweithgareddau a gefnogir gan y Gronfa Gymunedol.
Gweld ein Hastudiaethau Achos
- @Digwyddiadau i Ddod, a’r Newyddion Diweddaraf
Daliwch lan gyda digwyddiadau diweddaraf Pen y Cymoedd CBC, a cael yr wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf!
Gweld y Diweddaraf
- @Gwneud cais am Gymorth Ariannol
Dysgwch fwy am y Gronfa, a lawrlwytho ffurflen gais am grant. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais gorffenedig drwy’r wefan hon!







