PEN Y CYMOEDD

CWRDD Â THÎM PEN Y CYMOEDD

Pryd y cynhelir cyfarfodydd o’r Bwrdd?

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn rheolaidd, ac isod mae rhestr o ddyddiadau’r cyfarfodydd sydd i ddod:

  • Wythnos yn dechrau: 19 Ionawr 2026
  • Wythnos yn dechrau: 23 Mawrth 2026
  • Wythnos yn dechrau: 11 Mai 2026
  • Wythnos yn dechrau: 13 Gorffennaf 2026
  • Wythnos yn dechrau: 24 Awst 2026
  • Wythnos yn dechrau: 21 Medi 2026
  • Wythnos yn dechrau: 2 Tachwedd 2026
  • Wythnos yn dechrau: 30 Tachwedd 2026

Cwmni Cronfa Buddiant Cymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Caiff y Gronfa ei rheoli ar ran cymunedau lleol gan Gwmni Buddiant Cymunedol (CBC/CIC) sy’n gwbl annibynnol, wedi’i leoli’n lleol, ac yn atebol yn lleol. Mae strwythur Fferm Wynt Pen y Cymoedd a fabwysiadwyd gennym ni yn golygu mai cyflenwi budd i’r gymuned fydd ein prif flaenoriaeth bob tro, a bod yr arian rydym yn ei reoli yn ddarostyngol i ‘glo asedau’. Mae hyn yn nodwedd allweddol o bob CBC ac yn sicrhau y bydd ein holl asedau’n cael eu defnyddio’n unig er budd y gymuned – beth bynnag fo’r amgylchiadau.

Mae Amcanion y Cwmni, fel y gosodir hwy yn ein Erthyglau Cymdeithasu, yn glir – dywedant y byddwn ni’n:

  • Parhau â gweithgareddau sydd o fudd i’r Gymuned
  • Goruchwylio cronfa i gyflenwi buddion i’r Gymuned (fel y cytunir o bryd i’w gilydd gan sefydlydd y Cwmni); a
  • Sicrhau bod y cyllid a dderbynnir gan y Cwmni’n dod â budd hir-dymor i’r Gymuned.

Fel CBC/CIC rydym yn ffeilio cyfrifon blynyddol gyda Thŷ’r Cwmnïau ar ôl cael archwiliad llawn gan gyfrifydd annibynnol, ac yn cyflwyno Adroddiad CBC 34 yn flynyddol i Gomisiynydd y CBC.

Beth yw gwaith Bwrdd y Cyfarwyddwyr?

Fel arfer, mae gan y CBC 7 neu 8 o Gyfarwyddwyr – pob un ohonynt â chysylltiadau lleol.

Gyda’i gilydd, maent yn gyfrifol yn gyfreithiol am y modd y mae’r adnoddau’n cael eu rheoli a’u defnyddio, gan sicrhau bod dymuniadau’r gymuned – fel y nodir hwy yn y Prosbectws – yn cael eu gwireddu.

Gall aelodau wasanaethu am ddim mwy na dau gyfnod o dair blynedd, gan sicrhau trosiant a recriwtio egni a syniadau newydd wrth i’r Gronfa ddatblygu. Bydd y broses o recriwtio i’r Bwrdd bob amser yn agored a thryloyw. Rydym hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd Llwybrau at y Bwrdd i aelodau o’r gymuned, ac o bryd i’w gilydd gallwn gynnig cyfnod o gysgodi aelodau o’r Bwrdd.

Yr hyn sy’n bwysig i ni – sut y byddwn yn gweithio gyda chi

Gan weithio’n agos gyda chymunedau a sefydliadau lleol, bydd Cyfarwyddwyr Cwmni Cronfa Buddiant Cymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd CBC yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod y Gronfa’n cael ei stiwardio yn y modd gorau posibl. Mae’r datganiad hwn yn esbonio beth sy’n bwysig i ni a sut y byddwn yn gweithio gyda chi.

Mae pob aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn cytuno i, ac yn cadw at, y Polisi Cod Ymddygiad ar gyfer Cyfarwyddwyr, a’r Polisi Gwrthdaro Diddordeb.

Mae’r Cod Ymddygiad yn berthnasol i’r holl wahanol ffyrdd y bydd Cyfarwyddwyr yn gweithio gyda’i gilydd a gyda staff CBC, a’r modd y byddwn i gyd yn cynrychioli a hyrwyddo’r CBC yn allanol. Mae’r Staff a’r Cyfarwyddwyr yn gweithio gyda’i gilydd gyda pharch y naill at y llall, ac â gonestrwydd, ac felly hefyd gydag unigolion a sefydliadau allanol. Ein nod yw ymddwyn mewn modd agored ac agos-atoch – ein dymuniad yw bod yn sefydliad y gall pob rhanddeiliad ymddiried ynom.

Nod y Polisi Gwrthdaro Diddordeb yw amddiffyn y CBC, y Cyfarwyddwyr a’r Staff rhag amhriodoldeb, a lleihau’r perygl o unrhyw amgyffrediad fod penderfyniadau cyllido wedi cael eu dylanwadu’n allanol mewn unrhyw ffordd. Rhaid i’r holl Gyfarwyddwyr a’r staff gwblhau ffurflenni Datganiad o Ddiddordeb pan gânt eu penodi, a phob blwyddyn wedi hynny.  Yn ogystal, gwahoddir Datganiadau o Ddiddordeb ar ddechrau pob cyfarfod o’r Bwrdd fel eitem reolaidd ar yr agenda. Gallwch ddarllen y ddwy ddogfen polisi’n llawn ar ein tudalen Lawrlwytho.

Cwrdd ag Aelodau Cyfredol y Bwrdd ac Aelodau o’r Staff

Kate Breeze

Kate Breeze

Cyfarwyddwr Gweithredol
Shayla Walsh

Shayla Walsh

Swyddog Cymorth y Gronfa: Cymuned
Jemma Hull

Jemma Hull

Swyddog Cyllid ac Weinyddiaeth
Thomas Tudor Jones

Thomas Tudor Jones

Cadeirydd
Emma Shepherd

Emma Shepherd

Aelod o’r Bwrdd
Liam Hull

Liam Hull

Aelod o’r Bwrdd
Kathryn Warren

Kathryn Warren

Aelod o’r Bwrdd
Ashar Smith

Ashar Smith

Aelod o’r Bwrdd
Stephen Burt

Stephen Burt

Aelod o’r Bwrdd
Jamie Smith

Jamie Smith

Aelod o’r Bwrdd
Andrea Jones

Andrea Jones

Aelod o'r Bwrdd

Kate Breeze

Cyfarwyddwr Gweithredol

Mae Kate wedi bod gyda’r Gronfa Gymunedol ers ei sefydlu ym mis Hydref 2016, ac wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweithredol dros y bum mlynedd ddiwethaf. Hi sy’n arwain gweledigaeth strategol y Gronfa, yn rheoli’r berthynas gyda’r Bwrdd, rhanddeiliaid a phartneriaid yn y gymuned, ac yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i’r staff i sicrhau bod y Gronfa’n gwasanaethu’r cymunedau lleol mewn modd effeithiol. Mae gan Kate dros 12 mlynedd o brofiad mewn swyddi gweinyddol ac arweiniol. Ar ôl graddio yn y Gyfraith yn 2003, gweithiodd mewn gwahanol swyddi, o redeg ei busnes ei hun i reoli rhaglenni grant o fewn Sefydliadau Addysg Uwch. Kate sy’n gyfrifol am reoli’r Gronfa o ddydd i ddydd, yn rhoi cymorth cyflenwi ac yn ymgysylltu’n gymunedol. Mae Kate yn teimlo ei bod yn freintiedig i ddal  y swydd hon, ac yn angerddol dros wneud gwahaniaeth ystyrlon i gymunedau. Y tu allan i oriau gwaith, mae hi wrth ei bodd yn darllen a cherdded y mynydd-dir gyda’i chi; mae hi hefyd yn dysgu siarad Cymraeg.

Shayla Walsh

Swyddog Cymorth y Gronfa: Cymuned

Ymunodd Shayla â’r gronfa yn 2021, a bellach mae teitl ei rôl wedi newid i Swyddog Cymorth y Gronfa: Cymuned. Mae Shayla wedi dangos ei bod yn angerddol dros weithio gyda chymunedau a’r trydydd sector, a bydd yn sicrhau ei bod yn darparu’r safon uchaf o gyngor ac arweiniad, yn arwain ar reoli grantiau bychan i grwpiau cymunedol, a chefnogi’r Cyfarwyddwr Gweithredol gyda’r ceisiadau cymunedol mwy o faint. Rydym yn sicr y bydd Shayla’n parhau i ffynnu yn ei swydd, ac mae hithau’n edrych ymlaen at weithio’n agosach gyda grwpiau cymunedol i’w cefnogi i gael budd o’r gronfa a chynyddu effaith y gronfa.

Jemma Hull

Swyddog Cyllid ac Weinyddiaeth

Ymunodd Jemma â thîm Pen y Cymoedd ym mis Medi fel ein Swyddog Cyllid ac Weinyddiaeth. Mae hi’n dod â chefndir cryf mewn busnes a chymorth gweinyddol, gan fod wedi gweithio’n flaenorol gyda Chonsortiwm Canolbarth y De ar y Cyd ar gyfer Addysg fel Swyddog Cymorth Busnes.
Yn ei rôl flaenorol, roedd Jemma yn gyfrifol am gydlynu a diweddaru cynlluniau prosiect, cynnal cofnodion a chynnwys gwefannau, cefnogi swyddogaethau cyllid prosiectau, ac helpu i gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu proffesiynol. Roedd hi hefyd yn darparu cefnogaeth i fonitro cyllidebau ac yn gweithio’n agos gyda rheolwyr a rhanddeiliaid i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cyflawni’n effeithlon, yn effeithiol ac o fewn y gyllideb.
Gyda chyfoeth o brofiad mewn gweinyddiaeth, cyllid a chydlynu prosiectau, mae Jemma yn dod â sgiliau trefnu rhagorol a dull gweithgar i’w rôl. Gan fyw yn y Rhondda, mae hi’n mwynhau dod i adnabod y cymunedau y mae’r Gronfa’n eu cefnogi ac mae wedi dod yn aelod gwerthfawr o’n tîm bach, ymroddedig.

Thomas Tudor Jones

Cadeirydd

*Ar adeg ei benodi* Mae Thomas yn Uwch-Gynghorydd Cydymffurfio ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn rhoi cyngor ar ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol ar ystod o faterion cydymffurfio, yn cynnwys Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a’r iaith Gymraeg. Cyn hynny, gweithiodd mewn amryw o swyddi gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, yn cynnwys fel Rheolwr Cynorthwyol yn Theatr y Parc a’r Dâr, ac fel Uwch-Swyddog Polisi a Cydymffurfio’n gorfforaethol. Tra oedd gyda’r Cyngor hyfforddwyd ef i fod yn Ddirprwy Gofrestrydd Arolygol – felly mae e hefyd ar gael ar gyfer priodasau! Ac yntau’n dod yn wreiddiol o Dreherbert, a bellach yn byw yn Nhreorci gyda’i bartner, mae gwreiddiau Tom yn ddwfn yn ei gymuned leol. Mae’n mwynhau canu gydag Aelwyd Cwm Rhondda ac yn rhedeg yn wythnosol gyda’r Rhondda Valley Runners. Mae Tom yn falch ei fod yn byw yn y Rhondda, ac yn teimlo’n gyffrous iawn am fod yn rhan o sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl sy’n byw’n lleol ac mewn cymunedau cyfagos.

Emma Shepherd

Aelod o’r Bwrdd

*Ar adeg ei phenodi*Mae gan Emma dros ddau ddegawd o brofiad o fewn y trydydd sector, yn gweithio’n benodol gyda chymunedau. Ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Cenedlaethol – Cymru – dros Plant Mewn Angen y BBC. Mae hi’n angerddol dros bobl a grym y gymuned, ac yn awyddus i weld pobl leol yn defnyddio’u gwybodaeth a’u cysylltiadau unigryw i benderfynu sut y gellid defnyddio’r gronfa i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau lleol.  Cafodd ei geni a’i magu yng Nghwm Cynon, ac mae hi bellach yn byw ger Pontypridd gyda’i thri phlentyn, ei gŵr, a chi o’r enw Olive. Y tu allan i oriau gwaith, mae’n weithgar ym mywyd y gymuned – yn ymddiriedolwr ei neuadd bentref leol, yn rhedeg Cinio Mawr blynyddol i ddod â phobl at ei gilydd, ac yn aelod sefydledig o brosiect gardd gymunedol.

Liam Hull

Aelod o’r Bwrdd

*Ar adeg ei benodi*Mae Liam yn gyfrifydd siartredig a chanddo bron i 20 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau ariannol a gwasanaethau corfforaethol ehangach o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Strategol Adnoddau gyda Phrifysgol-Ranbarth Caerdydd; cyn hynny gwasanaethodd fel Prif Swyddog Ariannol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ar ôl gweithio’n flaenorol mewn nifer o rolau amrywiol ym maes cyllid ac archwiliadau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Drwy gydol ei yrfa, mae wedi arwain rhaglenni o newid sefydliadol mawr, gan gyflenwi gwelliannau cynaliadwy drwy reolaeth ariannol gref a sicrwydd risg. Daw Liam â gwybodaeth eang o Lywodraeth Leol Cymru, datblygiad economaidd rhanbarthol, a’r tirlun gwleidyddol ehangach yng Nghymru. Mae wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac wedi chwarae rôl yn y gwaith o wreiddio’r egwyddorion hyn o fewn y sefydliadau mae wedi eu harwain. Mae Liam wedi byw yn y Rhondda drwy’i oes ac yn gredwr cryf mewn datblygiad cymunedol cynaliadwy. Mae’n hynod falch o fod yn aelod o Fwrdd sefydliad  sydd wedi cael effaith mor bositif ar gymunedau lleol, ac yn gyffrous o gael cyfle i ychwanegu ei arbenigedd a ffordd ffres o feddwl at lwyddiant parhaus y gronfa.

Kathryn Warren

Aelod o’r Bwrdd

*Ar adeg ei phenodi*Mae gan Kathryn gefndir mewn peirianneg a thros 20 mlynedd o brofiad mewn ymgynghoriaeth ynni, rheoli gwastraff, a chynaliadwyedd, yn cynnwys swydd arweiniol uchel mewn cwmni byd-eang. Yng nghymoedd de Cymru mae Kathryn wedi byw drwy gydol ei bywyd, ac mae’n edrych ymlaen at ddod â’i sgiliau a’i phrofiad i faes budd y gronfa i’r gymuned, yn enwedig mewn perthynas â’r amgylchedd a chynaliadwyedd. Mae Kathryn hefyd yn angerddol am y celfyddydau, a’r rôl maent yn ei chwarae yn y dasg o adfywio cymunedau, ac mae’n un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae Kathryn yn mwynhau bod yn yr awyr agored gyda’i gŵr, ei merch fach, a chŵn y teulu. Mae hi’n rhedwr brwdfrydig, ac yn un o Gyfarwyddwyr y Maesteg Parkrun.

Ashar Smith

Aelod o’r Bwrdd

*Ar adeg ei benodi*Ymunodd Ashar â’r Gronfa yn 2025 ac yntau wedi byw yn ardal y Gronfa ers 2021. Ef yw Prif Weithredwr Creative Opps CIO, mae’n un o Ymddiriedolwyr Neuadd Les Tylorstown, a threuliodd dros ddegawd yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad at yr offer, y rhwydweithiau a’r profiad mae arnynt eu hangen i greu newidiadau positif iddynt hwy eu hunain a’u cymunedau. Bu Ashar yn gweithio i Gronfa Genedlaethol y Loteri Genedlaethol a’r Blagrave Trust, lle roedd ei waith yn ffocysu ar greu grantiau cyfranogol a newid dan arweiniad pobl ifanc. Mae Ashar yn teimlo’n gyffrous wrth ymuno â PyC ac yn edrych ymlaen at ailddosbarthu cyfoeth a phŵer i mewn i gymunedau.

Stephen Burt

Aelod o’r Bwrdd

*Ar adeg ei benodi*Mae Steve yn gyfrifydd siartredig ac yn weithiwr proffesiynol ym maes llywodraethiant. Ac yntau wedi byw a gweithio yn ne Cymru ar hyd ei oes, yn cynnwys gwasanaethu fel MD yn Rocialle,  Aberpennar, mae Steve bellach yn aelod o sawl bwrdd ac yn darparu hyfforddiant a mentora drwy raglen AGP Llywodraeth Cymru. Mae Steve wedi ymrwymo i adfywio’r Cymoedd drwy gefnogi entrepreneuriaeth, ac mae’n ymwybodol o’r cyfle gwych mae’r gronfa’n ei gynnig. Yn ddiweddar, symudodd Steve a’i wraig i fyw ar gwch camlas, ond mae’n parhau i ymwneud yn agos â’r ardal trwy ei gefnogaeth i nifer o eglwysi a phrosiectau elusennol.

Jamie Smith

Aelod o’r Bwrdd

*Ar adeg ei benodi*Cafodd Jamie ei eni a’i fagu yn ardal Cwm Nedd, ac am dros 20 mlynedd mae wedi gweithio ym meysydd arloesedd ac ymchwil, ar draws llywodraeth leol, llywodraeth ganolog a’r trydydd sector. Bu’n Gyfarwyddwr Arloesedd a Phartneriaeth yn Hafod ers 2018, lle datblygodd ei ddiddordeb mewn cynnwys cymunedau, cynllunio gwasanaethau a dadansoddi data. Yn 2021, Jamie oedd sefydlydd Side-by-Side, uned arloesedd cymdeithasol ac ymgysylltiad cymunedol Hafod. Side-by-Side oedd yr uned gyntaf o’i bath yng Nghymru, a llwyddodd i ddenu cyllid sylweddol a diddordeb gan bartneriaethau allanol yn ogystal â chyflenwi buddion i gymunedau. Cyn cychwyn ei yrfa yn y sectorau hyn, cwblhaodd Jamie Ddoethuriaeth mewn Astudiaethau’r Ddaear, gan danio’i angerdd dros newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Andrea Jones

Aelod o'r Bwrdd

Daw Andrea â phersbectif lleol cryf, gan ei bod wedi byw yn Aberdâr am y rhan fwyaf o’i bywyd cyn symud i’w chartref presennol yn Hirwaun. Gyda dros 23 mlynedd o brofiad o weithio i Gyrfaoedd Cymru, mae Andrea bellach yn Rheolwr Datblygiadau Gweithredol, gan gydweithredu ag ystod eang o ddiwydiannau a sefydliadau ledled Cymru yn adeiladu perthnasoedd a rhwydweithiau i gefnogi pobl ifanc wrth iddynt wneud penderfyniadau ynghylch eu gyrfaoedd. Mae cefndir proffesiynol Andrea wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr iddi i’r heriau a’r potensial sydd o fewn cymunedau lleol – materion mae hi’n angerddol ynghylch mynd i’r afael â hwy drwy gyfrwng gwaith y gronfa. Y tu fas i’w rôl broffesiynol, mae Andrea’n mwynhau cadw’n heini drwy redeg, mynd i’r gampfa, a cherdded ei chi. Mae hi'n ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod y gronfa’n cyflawni buddion ystyrlon, parhaus i’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu, gan helpu i greu cyfleoedd, cryfhau gwydnwch lleol, a gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw ledled ardal budd y gronfa.

Aelodau Blaenorol o’r Bwrdd

Martin Veale

Martin Veale

Dr Jack James

Dr Jack James

Michelle Coburn-Hughes

Michelle Coburn-Hughes

Victoria Bond

Victoria Bond

Bob Chapman

Bob Chapman

Marc Phillips

Marc Phillips

Yr Athro Donna Mead

Yr Athro Donna Mead

Glenn Bowen

Glenn Bowen

Mair Gwynant

Mair Gwynant

Dave Henderson

Dave Henderson

Martin Veale

*Ar adeg ei benodi*Mae Martin wedi cymhwyso fel cyfrifydd ac archwilydd, ac mae’n arbenigwr ar reoli risg a llywodraethiant. Mae e hefyd yn aelod profiadol o wahanol fyrddau, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd a Chadeirdd yr archwiliad yn Chwaraeon Cymru ac yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.Ac yntau wedi byw yng Nghymoedd de Cymru ar hyd ei fywyd, mae Martin yn cydnabod y cyfle gwych a gynrychiolir gan yr arian sydd ar gael drwy’r cynllun hwn, ac mae’n awyddus i sicrhau bod yr arian hwnnw’n gwneud argraff hir-dymor ar yr ardal – cyflawni er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Dr Jack James

*Ar adeg ei benodi*Magwyd Jack ar dyddyn yng ngorllewin Cymru cyn symud ymlaen i ennill gradd mewn Bioleg y Môr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe cyn cychwyn ei yrfa broffesiynol ym Madagascar fel rheolwr fferm bysgod. Yn ddiweddarach, penodwyd ef yn Bennaeth R&D ar gwmni dyfr-amaethu ym Malta, cyn dychwelyd i Aberdâr, de Cymru, yn 2013. Ymgartrefodd yma gyda’i deulu, gan sefydlu busnes dyfr-amaethu R&D yn Hirwaun yn 2014; bellach, mae’r busnes yn cyflogi 13 o bobl ac yn ehangu’n sylweddol drwy 2020/21 yn lleol a chyn belled â Singapore. Er bod y busnes yn gweithredu’n fyd-eang, mae ei wreiddiau’n ddwfn yng Nghwm Cynon, ac mae gan Jack ymrwymiad cryf yn bersonol a phroffesiynol i wella’r gymuned lle mae’n byw ac yn gweithio. Mae’n byw yn Llwydcoed gyda’i wraig (sy’n dod o Aberdâr) a’u dau blentyn ifanc.

Michelle Coburn-Hughes

*Ar adeg ei phenodi*Mae Michelle wedi cael ei chyflogi gan Wasanaethau Plant RhCT ers 1996, a bellach mae hi’n gweithio fel Rheolwr Busnes a  Chyfleusterau mewn ysgol uwchradd yng Nglynrhedynog. Hefyd, mae Michelle yn Gyfarwyddwr Rheoli a Sefydlu The Fern Partnership, Elusen a Chwmni Cyfyngedig sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau, a ddewiswyd yn 2017 fel sefydliad ‘Pathfinder’ dros Gymru gan Lywodraeth Cymru dan y fenter Tasglu’r Cymoedd. Mae’r Elusen yn strategol a blaengar mewn perthynas â’r dyfodol, datblygu cymunedau, a’r dull ymgysylltiol o weithio mewn partneriaeth gymunedol. Fel un sy’n byw ac yn gweithio’n broffesiynol yng nghymoedd Rhondda, mae Michelle yn falch o fod yn rhan o gymunedau sy’n ffynnu, datblygu a llwyddo yn yr hyn all fod yn amgylcheddau heriol, ac weithiau hynod anodd.

Victoria Bond

*Ar adeg ei phenodi*Mae Victoria yn Rheolwr Gwastraff Siartredig a chanddi 17 mlynedd o brofiad; ei harbenigedd yw dulliau modern o reoli gwastraff ac ailgylchu. A hithau’n dod yn wreiddiol o Hirwaun, mae ei gyrfa wedi mynd â hi i bob rhan o’r byd, yn cynnwys Awstralia a’r Dwyrain Canol, lle bu’n gweithio i ymgynghoriaethau peirianyddol ac amgylcheddol; roedd hi hefyd yn Aelod o Fwrdd Awdurdod Gwastraff Llywodraeth Gorllewin Awstralia.Cyn hynny, roedd Victoria’n Gynghorydd Cymunedol dros Hirwaun a Phenderyn, yn gyd-sefydlydd Briars Bridleways RhCT ac yn aelod o Action for Hirwaun, gan helpu i gael statws Maes Pentref ar gyfer y Gloucesters.Bellach mae hi’n rhedeg busnes newydd yn gwerthu cynnyrch fferm i’r cyhoedd. Mae Victoria’n angerddol ynghylch cymunedau’r Cymoedd, ac yn awyddus i ddefnyddio rhai o’i phrofiadau i helpu i adfywio pentrefi a threfi lleol.

Bob Chapman

*Ar adeg ei benodi*Bu Bob Chapman yn bresenoldeb allweddol yng Nghwm Afan ers blynyddoedd lawer; datblygodd nifer o wasanaethau arloesol, yn cynnwys Cyngor Ar Bopeth yn ucheldir Cwm Afan – y CAB symudol cyntaf yng Nghymru, yn gwasanaethu chwe chymuned yn y Cymoedd. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru. Bu’n gwasanaethu ar gyrff cenedlaethol – megis bwrdd Shelter Cymru – yn ogystal â sefydliadau lleol sy’n anadl einioes y gymuned, megis Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Croeserw, a Chyfeillion Llyfrgell Gymunedol Cymmer Afan.

Marc Phillips

*Ar adeg ei benodi*Mae Marc Phillips yn brofiadol iawn ym maes grantiau a chanddo 40 mlynedd o brofiad o fewn y sectorau gwirfoddol ac elusennol. Ymddeolodd yn ddiweddar fel Pennaeth Polisi Plant Mewn Angen y BBC, a bu’n Brif Weithredwr Tenovus, a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Dyfed.Ac yntau bellach yn byw yng Nghaerdydd, treuliodd flynyddoedd lawer yn byw yn Aberdâr, Aberpennar a Dowlais.

Yr Athro Donna Mead

*Ar adeg ei phenodi*Mae’r Athro Donna Mead wedi treulio gyrfa nodedig ym meysydd nyrsio, academia a gwasanaethu’r cyhoedd – a thrwy gydol y cyfnod cadwodd ei chartref yn ei chymuned enedigol, sef Glyn-nedd. A hithau’n awr yn Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, mae hi’n edrych ymlaen at wneud defnydd o Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd i wella gwydnwch cymunedau yn ucheldir cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Glenn Bowen

*Ar adeg ei benodi*Mae Glenn wedi gweithio ym maes datblygu dulliau cydweithredol am dros ddeunaw mlynedd, ac wedi hwyluso’r gwaith o sefydlu nifer fawr o sefydliadau cydweithredol ar gyfer cymunedau a gweithwyr, a chonsortia cydweithredol. Mae’n defnyddio’i hyfforddiant a’i ddealltwriaeth o fyd busnes i helpu pobl i ddatblygu syniadau entrepreneuraidd yn fusnesau cydweithredol llwyddiannus. Glenn yw Cyfarwyddwr Menter Canolfan Cydweithredol Cymru, ac ef oedd cydlynydd y Prosiect Gweithredu Economi Leol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.Bu Glenn yn byw yn Nhynewydd a Threherbert ar hyd ei oes; mae ei holl deulu’n byw o fewn y ward, ac mae’n gyffrous ynghylch bod yn rhan o sefydliad a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan rymuso’i gymuned ef a chymunedau cyfagos i’w helpu eu hunain i ddatblygu mewn modd cynaliadwy.

Mair Gwynant

*Ar adeg ei phenodi*Mae Mair Gwynant yn gyfrifydd siartredig a chanddi brofiad sylweddol o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys rheoli ariannol, llywodraethiant, cyllido, datblygu busnesau a chynllunio strategol.Yn flaenorol, daliodd Mair nifer o uwch-swyddi yn Llywodraeth Cymru,  Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru, Chwarae Teg a Deloitte Touche LLP. Bu’n gweithio gyda nifer fawr o sefydliadau yn ardal Pen y Cymoedd, gan ddatblygu prosiectau cymunedol cynaliadwy a gweithgareddau mentrau cymdeithasol. Mae Mair yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at, a siapio, y newid positif y gall y gronfa ei wneud yn yr ardal.

Dave Henderson

*Ar adeg ei benodi*Gadawodd David yr ysgol heb unrhyw gymwysterau, na syniad o beth i’w wneud yn y dyfodol. Roedd hynny bron i 50 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi treulio gyrfa nodedig ym myd addysg a hyfforddiant, gan sefydlu a rhedeg ei gwmnïau hyfforddi ei hun.  Am 35 mlynedd, bu’n byw a gweithio yn y cymunedau sydd wedi cael budd o Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd, ac mae’n arbennig o awyddus i weld y cymunedau lleol yn arwain ar y gwaith o benderfynu sut orau i ddefnyddio’r gronfa yn eu hardaloedd, a’i defnyddio fel catalydd i adfer yr agwedd “gallaf ei wneud e” sydd, yn ei farn ef, yn sail i fywyd pobl yn yr ucheldiroedd. Yn ogystal, mae Dave yn Gyfarwyddwr Anweithredol cwmni ailgylchu yn y cymoedd, sef  “Too Good to Waste”.