*Ar adeg ei phenodi*

Mae’r Athro Donna Mead wedi treulio gyrfa nodedig ym meysydd nyrsio, academia a gwasanaethu’r cyhoedd – a thrwy gydol y cyfnod cadwodd ei chartref yn ei chymuned enedigol, sef Glyn-nedd. A hithau’n awr yn Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, mae hi’n edrych ymlaen at wneud defnydd o Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd i wella gwydnwch cymunedau yn ucheldir cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.