*Ar adeg ei phenodi*
Mae Victoria yn Rheolwr Gwastraff Siartredig a chanddi 17 mlynedd o brofiad; ei harbenigedd yw dulliau modern o reoli gwastraff ac ailgylchu. A hithau’n dod yn wreiddiol o Hirwaun, mae ei gyrfa wedi mynd â hi i bob rhan o’r byd, yn cynnwys Awstralia a’r Dwyrain Canol, lle bu’n gweithio i ymgynghoriaethau peirianyddol ac amgylcheddol; roedd hi hefyd yn Aelod o Fwrdd Awdurdod Gwastraff Llywodraeth Gorllewin Awstralia.
Cyn hynny, roedd Victoria’n Gynghorydd Cymunedol dros Hirwaun a Phenderyn, yn gyd-sefydlydd Briars Bridleways RhCT ac yn aelod o Action for Hirwaun, gan helpu i gael statws Maes Pentref ar gyfer y Gloucesters.
Bellach mae hi’n rhedeg busnes newydd yn gwerthu cynnyrch fferm i’r cyhoedd. Mae Victoria’n angerddol ynghylch cymunedau’r Cymoedd, ac yn awyddus i ddefnyddio rhai o’i phrofiadau i helpu i adfywio pentrefi a threfi lleol.