*Ar adeg ei benodi*
Mae Thomas yn Uwch-Gynghorydd Cydymffurfio ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn rhoi cyngor ar ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol ar ystod o faterion cydymffurfio, yn cynnwys Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a’r iaith Gymraeg. Cyn hynny, gweithiodd mewn amryw o swyddi gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, yn cynnwys fel Rheolwr Cynorthwyol yn Theatr y Parc a’r Dâr, ac fel Uwch-Swyddog Polisi a Cydymffurfio’n gorfforaethol. Tra oedd gyda’r Cyngor hyfforddwyd ef i fod yn Ddirprwy Gofrestrydd Arolygol – felly mae e hefyd ar gael ar gyfer priodasau! Ac yntau’n dod yn wreiddiol o Dreherbert, a bellach yn byw yn Nhreorci gyda’i bartner, mae gwreiddiau Tom yn ddwfn yn ei gymuned leol. Mae’n mwynhau canu gydag Aelwyd Cwm Rhondda ac yn rhedeg yn wythnosol gyda’r Rhondda Valley Runners. Mae Tom yn falch ei fod yn byw yn y Rhondda, ac yn teimlo’n gyffrous iawn am fod yn rhan o sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl sy’n byw’n lleol ac mewn cymunedau cyfagos.