*Ar adeg ei benodi*

Mae Steve yn gyfrifydd siartredig ac yn weithiwr proffesiynol ym maes llywodraethiant. Ac yntau wedi byw a gweithio yn ne Cymru ar hyd ei oes, yn cynnwys gwasanaethu fel MD yn Rocialle,  Aberpennar, mae Steve bellach yn aelod o sawl bwrdd ac yn darparu hyfforddiant a mentora drwy raglen AGP Llywodraeth Cymru. Mae Steve wedi ymrwymo i adfywio’r Cymoedd drwy gefnogi entrepreneuriaeth, ac mae’n ymwybodol o’r cyfle gwych mae’r gronfa’n ei gynnig. Yn ddiweddar, symudodd Steve a’i wraig i fyw ar gwch camlas, ond mae’n parhau i ymwneud yn agos â’r ardal trwy ei gefnogaeth i nifer o eglwysi a phrosiectau elusennol.