*Ar adeg ei phenodi*
Mae Michelle wedi cael ei chyflogi gan Wasanaethau Plant RhCT ers 1996, a bellach mae hi’n gweithio fel Rheolwr Busnes a Chyfleusterau mewn ysgol uwchradd yng Nglynrhedynog. Hefyd, mae Michelle yn Gyfarwyddwr Rheoli a Sefydlu The Fern Partnership, Elusen a Chwmni Cyfyngedig sydd wedi ennill nifer fawr o wobrau, a ddewiswyd yn 2017 fel sefydliad ‘Pathfinder’ dros Gymru gan Lywodraeth Cymru dan y fenter Tasglu’r Cymoedd. Mae’r Elusen yn strategol a blaengar mewn perthynas â’r dyfodol, datblygu cymunedau, a’r dull ymgysylltiol o weithio mewn partneriaeth gymunedol. Fel un sy’n byw ac yn gweithio’n broffesiynol yng nghymoedd Rhondda, mae Michelle yn falch o fod yn rhan o gymunedau sy’n ffynnu, datblygu a llwyddo yn yr hyn all fod yn amgylcheddau heriol, ac weithiau hynod anodd.