*Ar adeg ei benodi*

Mae Martin wedi cymhwyso fel cyfrifydd ac archwilydd, ac mae’n arbenigwr ar reoli risg a llywodraethiant. Mae e hefyd yn aelod profiadol o wahanol fyrddau, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd a Chadeirdd yr archwiliad yn Chwaraeon Cymru ac yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Ac yntau wedi byw yng Nghymoedd de Cymru ar hyd ei fywyd, mae Martin yn cydnabod y cyfle gwych a gynrychiolir gan yr arian sydd ar gael drwy’r cynllun hwn, ac mae’n awyddus i sicrhau bod yr arian hwnnw’n gwneud argraff hir-dymor ar yr ardal – cyflawni er lles cenedlaethau’r dyfodol.