*Ar adeg ei benodi*

Mae Marc Phillips yn brofiadol iawn ym maes grantiau a chanddo 40 mlynedd o brofiad o fewn y sectorau gwirfoddol ac elusennol. Ymddeolodd yn ddiweddar fel Pennaeth Polisi Plant Mewn Angen y BBC, a bu’n Brif Weithredwr Tenovus, a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Dyfed.

Ac yntau bellach yn byw yng Nghaerdydd, treuliodd flynyddoedd lawer yn byw yn Aberdâr, Aberpennar a Dowlais.