*Ar adeg ei phenodi*
Mae Mair Gwynant yn gyfrifydd siartredig a chanddi brofiad sylweddol o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys rheoli ariannol, llywodraethiant, cyllido, datblygu busnesau a chynllunio strategol.
Yn flaenorol, daliodd Mair nifer o uwch-swyddi yn Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru, Chwarae Teg a Deloitte Touche LLP. Bu’n gweithio gyda nifer fawr o sefydliadau yn ardal Pen y Cymoedd, gan ddatblygu prosiectau cymunedol cynaliadwy a gweithgareddau mentrau cymdeithasol. Mae Mair yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at, a siapio, y newid positif y gall y gronfa ei wneud yn yr ardal.