*Ar adeg ei benodi*
Mae Liam yn gyfrifydd siartredig a chanddo bron i 20 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau ariannol a gwasanaethau corfforaethol ehangach o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Strategol Adnoddau gyda Phrifysgol-Ranbarth Caerdydd; cyn hynny gwasanaethodd fel Prif Swyddog Ariannol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ar ôl gweithio’n flaenorol mewn nifer o rolau amrywiol ym maes cyllid ac archwiliadau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Drwy gydol ei yrfa, mae wedi arwain rhaglenni o newid sefydliadol mawr, gan gyflenwi gwelliannau cynaliadwy drwy reolaeth ariannol gref a sicrwydd risg. Daw Liam â gwybodaeth eang o Lywodraeth Leol Cymru, datblygiad economaidd rhanbarthol, a’r tirlun gwleidyddol ehangach yng Nghymru. Mae wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac wedi chwarae rôl yn y gwaith o wreiddio’r egwyddorion hyn o fewn y sefydliadau mae wedi eu harwain. Mae Liam wedi byw yn y Rhondda drwy’i oes ac yn gredwr cryf mewn datblygiad cymunedol cynaliadwy. Mae’n hynod falch o fod yn aelod o Fwrdd sefydliad sydd wedi cael effaith mor bositif ar gymunedau lleol, ac yn gyffrous o gael cyfle i ychwanegu ei arbenigedd a ffordd ffres o feddwl at lwyddiant parhaus y gronfa.