Mae Kate wedi bod gyda’r Gronfa Gymunedol ers ei sefydlu ym mis Hydref 2016, ac wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweithredol dros y bum mlynedd ddiwethaf. Hi sy’n arwain gweledigaeth strategol y Gronfa, yn rheoli’r berthynas gyda’r Bwrdd, rhanddeiliaid a phartneriaid yn y gymuned, ac yn rhoi arweiniad a chefnogaeth i’r staff i sicrhau bod y Gronfa’n gwasanaethu’r cymunedau lleol mewn modd effeithiol. Mae gan Kate dros 12 mlynedd o brofiad mewn swyddi gweinyddol ac arweiniol. Ar ôl graddio yn y Gyfraith yn 2003, gweithiodd mewn gwahanol swyddi, o redeg ei busnes ei hun i reoli rhaglenni grant o fewn Sefydliadau Addysg Uwch. Kate sy’n gyfrifol am reoli’r Gronfa o ddydd i ddydd, yn rhoi cymorth cyflenwi ac yn ymgysylltu’n gymunedol. Mae Kate yn teimlo ei bod yn freintiedig i ddal y swydd hon, ac yn angerddol dros wneud gwahaniaeth ystyrlon i gymunedau. Y tu allan i oriau gwaith, mae hi wrth ei bodd yn darllen a cherdded y mynydd-dir gyda’i chi; mae hi hefyd yn dysgu siarad Cymraeg.