*Ar adeg ei benodi*

Cafodd Jamie ei eni a’i fagu yn ardal Cwm Nedd, ac am dros 20 mlynedd mae wedi gweithio ym meysydd arloesedd ac ymchwil, ar draws llywodraeth leol, llywodraeth ganolog a’r trydydd sector. Bu’n Gyfarwyddwr Arloesedd a Phartneriaeth yn Hafod ers 2018, lle datblygodd ei ddiddordeb mewn cynnwys cymunedau, cynllunio gwasanaethau a dadansoddi data. Yn 2021, Jamie oedd sefydlydd Side-by-Side, uned arloesedd cymdeithasol ac ymgysylltiad cymunedol Hafod. Side-by-Side oedd yr uned gyntaf o’i bath yng Nghymru, a llwyddodd i ddenu cyllid sylweddol a diddordeb gan bartneriaethau allanol yn ogystal â chyflenwi buddion i gymunedau. Cyn cychwyn ei yrfa yn y sectorau hyn, cwblhaodd Jamie Ddoethuriaeth mewn Astudiaethau’r Ddaear, gan danio’i angerdd dros newid hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol.