*Ar adeg ei benodi*
Mae Glenn wedi gweithio ym maes datblygu dulliau cydweithredol am dros ddeunaw mlynedd, ac wedi hwyluso’r gwaith o sefydlu nifer fawr o sefydliadau cydweithredol ar gyfer cymunedau a gweithwyr, a chonsortia cydweithredol. Mae’n defnyddio’i hyfforddiant a’i ddealltwriaeth o fyd busnes i helpu pobl i ddatblygu syniadau entrepreneuraidd yn fusnesau cydweithredol llwyddiannus. Glenn yw Cyfarwyddwr Menter Canolfan Cydweithredol Cymru, ac ef oedd cydlynydd y Prosiect Gweithredu Economi Leol ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bu Glenn yn byw yn Nhynewydd a Threherbert ar hyd ei oes; mae ei holl deulu’n byw o fewn y ward, ac mae’n gyffrous ynghylch bod yn rhan o sefydliad a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan rymuso’i gymuned ef a chymunedau cyfagos i’w helpu eu hunain i ddatblygu mewn modd cynaliadwy.