*Ar adeg ei phenodi*
Mae gan Emma dros ddau ddegawd o brofiad o fewn y trydydd sector, yn gweithio’n benodol gyda chymunedau. Ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Cenedlaethol – Cymru – dros Plant Mewn Angen y BBC. Mae hi’n angerddol dros bobl a grym y gymuned, ac yn awyddus i weld pobl leol yn defnyddio’u gwybodaeth a’u cysylltiadau unigryw i benderfynu sut y gellid defnyddio’r gronfa i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau lleol. Cafodd ei geni a’i magu yng Nghwm Cynon, ac mae hi bellach yn byw ger Pontypridd gyda’i thri phlentyn, ei gŵr, a chi o’r enw Olive. Y tu allan i oriau gwaith, mae’n weithgar ym mywyd y gymuned – yn ymddiriedolwr ei neuadd bentref leol, yn rhedeg Cinio Mawr blynyddol i ddod â phobl at ei gilydd, ac yn aelod sefydledig o brosiect gardd gymunedol.