*Ar adeg ei benodi*
Magwyd Jack ar dyddyn yng ngorllewin Cymru cyn symud ymlaen i ennill gradd mewn Bioleg y Môr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe cyn cychwyn ei yrfa broffesiynol ym Madagascar fel rheolwr fferm bysgod. Yn ddiweddarach, penodwyd ef yn Bennaeth R&D ar gwmni dyfr-amaethu ym Malta, cyn dychwelyd i Aberdâr, de Cymru, yn 2013. Ymgartrefodd yma gyda’i deulu, gan sefydlu busnes dyfr-amaethu R&D yn Hirwaun yn 2014; bellach, mae’r busnes yn cyflogi 13 o bobl ac yn ehangu’n sylweddol drwy 2020/21 yn lleol a chyn belled â Singapore. Er bod y busnes yn gweithredu’n fyd-eang, mae ei wreiddiau’n ddwfn yng Nghwm Cynon, ac mae gan Jack ymrwymiad cryf yn bersonol a phroffesiynol i wella’r gymuned lle mae’n byw ac yn gweithio. Mae’n byw yn Llwydcoed gyda’i wraig (sy’n dod o Aberdâr) a’u dau blentyn ifanc.