*Ar adeg ei benodi*

Gadawodd David yr ysgol heb unrhyw gymwysterau, na syniad o beth i’w wneud yn y dyfodol. Roedd hynny bron i 50 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi treulio gyrfa nodedig ym myd addysg a hyfforddiant, gan sefydlu a rhedeg ei gwmnïau hyfforddi ei hun.  Am 35 mlynedd, bu’n byw a gweithio yn y cymunedau sydd wedi cael budd o Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd, ac mae’n arbennig o awyddus i weld y cymunedau lleol yn arwain ar y gwaith o benderfynu sut orau i ddefnyddio’r gronfa yn eu hardaloedd, a’i defnyddio fel catalydd i adfer yr agwedd “gallaf ei wneud e” sydd, yn ei farn ef, yn sail i fywyd pobl yn yr ucheldiroedd. Yn ogystal, mae Dave yn Gyfarwyddwr Anweithredol cwmni ailgylchu yn y cymoedd, sef  “Too Good to Waste”.