*Ar adeg ei benodi*

Bu Bob Chapman yn bresenoldeb allweddol yng Nghwm Afan ers blynyddoedd lawer; datblygodd nifer o wasanaethau arloesol, yn cynnwys Cyngor Ar Bopeth yn ucheldir Cwm Afan – y CAB symudol cyntaf yng Nghymru, yn gwasanaethu chwe chymuned yn y Cymoedd. Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru. Bu’n gwasanaethu ar gyrff cenedlaethol – megis bwrdd Shelter Cymru – yn ogystal â sefydliadau lleol sy’n anadl einioes y gymuned, megis Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Croeserw, a Chyfeillion Llyfrgell Gymunedol Cymmer Afan.