*Ar adeg ei benodi*

Ymunodd Ashar â’r Gronfa yn 2025 ac yntau wedi byw yn ardal y Gronfa ers 2021. Ef yw Prif Weithredwr Creative Opps CIO, mae’n un o Ymddiriedolwyr Neuadd Les Tylorstown, a threuliodd dros ddegawd yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad at yr offer, y rhwydweithiau a’r profiad mae arnynt eu hangen i greu newidiadau positif iddynt hwy eu hunain a’u cymunedau. Bu Ashar yn gweithio i Gronfa Genedlaethol y Loteri Genedlaethol a’r Blagrave Trust, lle roedd ei waith yn ffocysu ar greu grantiau cyfranogol a newid dan arweiniad pobl ifanc. Mae Ashar yn teimlo’n gyffrous wrth ymuno â PyC ac yn edrych ymlaen at ailddosbarthu cyfoeth a phŵer i mewn i gymunedau.