Daw Andrea â phersbectif lleol cryf, gan ei bod wedi byw yn Aberdâr am y rhan fwyaf o’i bywyd cyn symud i’w chartref presennol yn Hirwaun. Gyda dros 23 mlynedd o brofiad o weithio i Gyrfaoedd Cymru, mae Andrea bellach yn Rheolwr Datblygiadau Gweithredol, gan gydweithredu ag ystod eang o ddiwydiannau a sefydliadau ledled Cymru yn adeiladu perthnasoedd a rhwydweithiau i gefnogi pobl ifanc wrth iddynt wneud penderfyniadau ynghylch eu gyrfaoedd. Mae cefndir proffesiynol Andrea wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr iddi i’r heriau a’r potensial sydd o fewn cymunedau lleol – materion mae hi’n angerddol ynghylch mynd i’r afael â hwy drwy gyfrwng gwaith y gronfa. Y tu fas i’w rôl broffesiynol, mae Andrea’n mwynhau cadw’n heini drwy redeg, mynd i’r gampfa, a cherdded ei chi. Mae hi’n ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod y gronfa’n cyflawni buddion ystyrlon, parhaus i’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu, gan helpu i greu cyfleoedd, cryfhau gwydnwch lleol, a gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw ledled ardal budd y gronfa.