Cronfa Gymunedol yn dyfarnu £66,000 i Innovate Composites Ltd

Medi 9

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Innovate Composites Ltd wedi cael £66,000 gan ein Cronfa Gymunedol fel cymysgedd o grant a benthyciad i gefnogi ei brosiect Canolfan Twf a Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch yn Hirwaun, Cynon. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu’r busnes i ehangu ei allu gweithgynhyrchu, gwella ei gyfleusterau gweithdy, a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer datblygu sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth.

Bydd y cyllid yn cefnogi:

  • Offer ac adnoddau gweithgynhyrchu newydd
  • Gwaith gosod a pharatoi’r cyfleuster a’r gweithdy
  • Hyfforddi a datblygu sgiliau staff
  • Gosod a sefydlu offer

Bydd y prosiect yn helpu Innovate Composites Ltd i dyfu ei weithrediadau tra hefyd yn creu cyfleoedd gwerthfawr i bobl leol. Dros y 12 mis nesaf, mae’r busnes yn bwriadu creu swyddi gweithdy medrus newydd a phrentisiaeth, ochr yn ochr â darparu lleoliadau strwythuredig ac interniaethau i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn peirianneg, gweithgynhyrchu a deunyddiau cyfansawdd.

Mae’r prosiect hefyd yn anelu at gryfhau’r cysylltiadau rhwng busnes ac addysg drwy gynnig cyfleoedd dysgu ymarferol mewn amgylchedd gweithgynhyrchu go iawn, gan helpu pobl ifanc a dysgwyr ar ddechrau eu gyrfa i feithrin sgiliau ymarferol a gwella eu cyflogadwyedd.

Drwy gefnogi twf busnesau lleol a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol, mae’r dyfarniad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn prosiectau sy’n creu swyddi, yn cryfhau’r economi leol, ac yn agor cyfleoedd newydd i gymunedau ledled yr ardal.

Edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y prosiect hwn yn ei chael yn Hirwaun a thu hwnt.

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.