Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd yn dyfarnu £25,672.83 i ysbrydoli gyrfaoedd gwyrdd y dyfodol drwy “Turbine Time!”
Mehefin
Mae Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd yn falch o ddyfarnu £25,672.83 i EESW STEM Cymru i gyflwyno “Turbine Time! – Addysg wedi’i Bweru gan Wynt” mewn ysgolion ar draws ardal y Gronfa.
Bydd y rhaglen gyffrous hon yn rhoi cyfle i gannoedd o bobl ifanc archwilio ynni adnewyddadwy, peirianneg a chynaliadwyedd amgylcheddol drwy weithgareddau ymarferol sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â fferm wynt Pen y Cymoedd.
Dros flwyddyn academaidd 2026–2027, bydd tua 720 o ddisgyblion o oddeutu 18 ysgol ar draws Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau ymarferol, heriau peirianneg a phrosiectau ynni adnewyddadwy yn seiliedig ar sefyllfaoedd go iawn, gan gysylltu dysgu â gyrfaoedd y dyfodol.
Bydd disgyblion yn adeiladu ac yn profi tyrbinau gwynt model, yn ymchwilio i weld a allai eu hysgol eu hunain gael ei phweru gan ynni gwynt, yn dadansoddi data amgylcheddol ac yn cyflwyno casgliadau seiliedig ar dystiolaeth drwy gyflwyniadau, adroddiadau a chyfryngau digidol.
Yn bwysig, mae’r rhaglen yn mynd y tu hwnt i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth drwy helpu pobl ifanc i ddeall y cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg o fewn y sector ynni adnewyddadwy sy’n tyfu ar garreg eu drws. Trwy ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a gweithgareddau sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â fferm wynt Pen y Cymoedd, bydd disgyblion yn cael cipolwg ar yrfaoedd mewn peirianneg, ynni, cynaliadwyedd a thechnoleg.
Mae’r prosiect hefyd yn anelu at gryfhau cysylltiad pobl ifanc â’u hamgylchedd lleol a chynyddu ymwybyddiaeth o sut mae ynni adnewyddadwy yn cyfrannu at lesiant cymunedol a dyfodol carbon isel Cymru.
Mae’r fenter yn cefnogi blaenoriaethau allweddol Gweledigaeth Gymunedol Pen y Cymoedd o ran ysgolion a hyfforddiant, sgiliau a chyflogaeth, ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mae hefyd yn sicrhau bod gan ysgolion adnoddau ac offer y gellir eu hailddefnyddio, gan greu etifeddiaeth barhaus y tu hwnt i oes y prosiect.
Disgwylir i’r gwaith ddechrau yn hydref 2026 a pharhau tan fis Gorffennaf 2027.