Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn dyfarnu £24,900 i Cymoedd Creadigol CIC ar gyfer prosiect treftadaeth arloesol
Medi 16
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch o ddyfarnu £24,900 i Cymoedd Creadigol CIC i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Twn Pychs, prosiect creadigol uchelgeisiol dan arweiniad y gymuned a fydd yn dathlu ac yn diogelu treftadaeth fyw cymoedd Rhondda a Chynon Uchaf.
Bydd Twn Pychs yn rhedeg dros gyfnod o 18 mis ac yn dod â phobl o bob oed ynghyd drwy raglen o weithdai am ddim sy’n canolbwyntio ar greadigrwydd digidol, celf a chrefftau traddodiadol,
hanes lleol, adrodd straeon a’r Gymraeg. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ddysgu sgiliau gan gynnwys creu fideos, recordio hanes llafar, sganio 3D, ymchwilio i archifau a dylunio gemau, wrth gofnodi’r straeon, atgofion, tirweddau a thraddodiadau sy’n gwneud eu cymunedau’n unigryw.
Mae’r prosiect yn adeiladu ar lwyddiant prosiect peilot a gefnogwyd drwy Gronfa Micro Pen y Cymoedd, gan ymateb i alw cryf gan y gymuned am gyfleoedd sy’n cyfuno creadigrwydd, treftadaeth a sgiliau digidol.
Un o nodweddion unigryw Twn Pychs yw y bydd y deunydd a grëir gan gyfranogwyr — gan gynnwys hanesion llafar, ffilmiau, gwaith celf, sganiau 3D a chynnwys Cymraeg — yn cael ei drawsnewid yn gêm fideo byd agored ryngweithiol, gan greu archif ddigidol fyw o dreftadaeth ddiwylliannol yr ardal. Bydd y prosiect hefyd yn cynhyrchu ffilm ddogfen ac yn dod i ben gyda digwyddiad arddangos cyhoeddus yn Theatr Parc a Dare yn Nhreorci.
Yn ogystal â diogelu treftadaeth leol, nod y prosiect yw gwella llesiant, lleihau unigedd cymdeithasol, cryfhau cysylltiadau rhwng cenedlaethau a rhoi sgiliau creadigol a digidol gwerthfawr i gyfranogwyr a all gefnogi dysgu, gwirfoddoli a chyflogaeth yn y dyfodol.
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch o gefnogi prosiectau fel Twn Pychs sy’n dathlu hunaniaeth leol, yn buddsoddi mewn pobl ac yn creu manteision hirdymor i gymunedau ledled ardal y Gronfa. Edrychwn ymlaen at weld y prosiect yn datblygu a’r effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ledled cymoedd Rhondda a Chynon.
“Ar ôl prosiect peilot llwyddiannus iawn, rydym yn gyffrous i allu ehangu Twn Pychs a gweithio gyda mwy o gymunedau ledled cymoedd Rhondda a Chynon Uchaf. Mae hon yn ffordd wirioneddol newydd o brofi treftadaeth fyw leol a chofnodi straeon ac atgofion cyn iddynt gael eu colli am byth. Os hoffai unrhyw bobl neu grwpiau gymryd rhan, boed hynny drwy greu fideos, ymchwilio i hanes lleol, dylunio gemau neu ddim ond archwilio’r ardal, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!” — Cymoedd Creadigol CIC