Creu Swyddi: Paratoi’r Ffordd at Ddyfodol Mwy Disglair
Oeddech chi’n gwybod bod cyllid PyC wedi creu dros 25 o swyddi ac wedi helpu i gefnogi a chynnal 156 o swyddi pellach yn ardal y gronfa hyd yn hyn?
Fel cronfa, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a thyfu busnesau lleol, creu cyfleoedd gwaith, a denu menter a buddsoddiad i’r ardal, gan greu swyddi diogel o ansawdd uchel.
Mae’r gronfa wedi ymrwymo i ariannu mentrau sydd yn:
- Datblygu sgiliau swyddi’r dyfodol.
- Cefnogi busnesau lleol i gynnal swyddi a thwf.
- Cefnogi pobl leol ar eu taith tuag at gyflogaeth drwy ddileu rhwystrau o bob math i gyflogaeth ar bob cam ac ar gyfer pob oed
- Datblygu swyddi sy’n canolbwyntio ar leihau allyriadau carbon, adfer natur a gwneud gwelliannau amgylcheddol
- Codi dyheadau cyflogaeth pobl, yn enwedig pobl ddifreintiedig sy’n byw yn y cymoedd
- Annog entrepreneuriaeth, unig fasnachwyr, mentrau cymdeithasol, a chwmnïau cydweithredol
- Darparu swyddi diogel o safon
Mae’r gymuned am i’r gronfa fod yn eiriolwyr dros arloesi a chyflogaeth, felly rydym yn parhau i weithio gydag asiantaethau cymorth busnes, awdurdodau lleol, a phartneriaid eraill. Rydym yn sicrhau bod busnesau o bob math yn cael y datblygiad a’r cymorth parhaus sydd eu hangen arnynt, ac rydym yn gweithio i drosoli hynny i ardal y gronfa.
Mae’r gronfa wedi cefnogi a bydd yn parhau i gefnogi ystod eang o sefydliadau gan gynnwys er enghraifft:
- Manwerthwyr annibynnol / busnesau lleol
- Addysg gymunedol i oedolion
- Addysg a chyflogaeth ieuenctid
- Siambrau masnach
- Grwpiau cymdeithasol, gwirfoddol, chwaraeon a
- hybiau cymunedol
- Mentrau cymdeithasol