CLWB GOLFF GLYN-NEDD YN GYRRU AM Y DYFODOL – £110,000

Wedi’i sefydlu yn 1931, er mwyn helpu i wireddu eu gweledigaeth ddatblygu, aethant i Ben y Cymoedd i helpu i gyflogi Cyfarwyddwr Golff a Chymorth Golff am dair blynedd ac roeddem wrth ein boddau i allu eu cefnogi gyda chyllid o £110,000.

“Mae Clwb Golff Glyn-nedd wedi bod yn rhan o’r Gymuned Glyn-nedd a’r Cyffiniau ers degawdau lawer ond roeddem yn deall bod angen gweithwyr proffesiynol llawn amser i farchnata ein cyfleusterau ac i arwain at ddiddordeb y gymuned. Roedd Kate a Michelle yn eithriadol o ddefnyddiol ac yn barod i dderbyn ein syniadau ac yn dal ein llaw ar hyd pob cyfnod, gan gynnwys y broses ymgeisio – rydym yn fythol ddiolchgar am yr holl help a’r gefnogaeth a roddwyd i ni gan y gronfa.“ Colin J Owen, Ysgrifennydd Dros Dro, Clwb Golff Glynneath

Sefydlwyd y gronfa gan y cwmni ynni Vattenfall i fod o fudd i’r cymunedau sy’n lletya fferm wynt Pen y Cymoedd ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’n bodoli gyda’r nod o gefnogi pobl, grwpiau a sefydliadau lleol i fuddsoddi ynddynt eu hunain, yn eu syniadau ac yn eu cymunedau.
 
Mae gan y Gronfa Gymunedol gyllideb flynyddol sylweddol sy’n fynegrifol, ac felly’n cynyddu yn unol â chwyddiant. Er enghraifft, roedd hyn yn cyfateb i tua £2.5 miliwn yn 2025. Bydd y Gronfa’n parhau i gefnogi cymunedau hyd at 2043, gan greu cyfleoedd hir-dymor ar gyfer twf, gwydnwch a newid cadarnhaol.
 
Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymdeithasol (CIC) nid-er-elw sy’n annibynnol ac wedi’i leoli’n lleol. Caiff ei goruchwylio gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr a chanddynt gysylltiadau lleol cryf, a’i darparu gan dîm bychan o staff ymroddedig sydd â phrofiad eang o ymgysylltu â chymunedau. Rydym ni yma i helpu’r Gronfa i sicrhau ei bod yn gwireddu gweledigaeth a blaenoriaethau’r cymunedau lleol.
 
Dros y 10 mlynedd nesaf, mae’r Gronfa’n bwriadu ffocysu ar fuddsoddi mewn pobl, lleoliadau a busnesau – gan helpu’r Cymoedd i ffynnu, annog syniadau mentrus, cefnogi trawsnewid, a chreu effaith barhaus ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.